Mae’r ffaith fod Gareth Bale wedi derbyn MBE yn “gadael ychydig bach o flas cas yn y ceg”, ond ddylai pobol ddim mynd dros ben llestri yn ei feirniadu, yn ôl un o golofnwyr Golwg sydd y tu ôl i ‘Blog yr Hogyn o Rachub’.

Mae Jason Morgan hefyd o’r farn mai “ffans gwleidyddol” yw’r sawl sy’n cwyno, yn hytrach na “ffans pêl-droed”.

Daw hyn ar ôl i gapten tîm pêl-droed Cymru dderbyn MBE yn ystod yr wythnos pan enillodd e Gynghrair y Pencampwyr am y pumed tro gyda Real Madrid.

Fe ddaw hefyd ar drothwy gêm fawr i Gymru ddydd Sul (Mehefin 5) yn erbyn Wcráin i ennill lle yng Nghwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

“Ydi, mae o’n gadael ychydig bach o flas cas yn y ceg,” meddai Jason Morgan wrth golwg360.

“Rydan ni’n bildio Gareth Bale, neu mae yna ran o’r cefnogwyr wedi bildio Gareth Bale dros y blynyddoedd, fatha ei fod o’n ryw fath o Owain Glyndŵr newydd.

“A dw i’n meddwl bod o’n hollol afresymol bod hynna wedi cael ei wneud i foi sydd erioed wedi mynegi barn am unrhyw beth yn ei fywyd rili.

“Dydi o ddim rili yn syndod y basa fo’n derbyn MBE, neu i weld yn eithaf licio’r Cwîn achos mae o fel – a gas gen i ddweud hyn – ond fel y mwyafrif o bobol yng Nghymru.

“Ydi, mae o ychydig bach yn siomedig ond dyna pwy ydi, o a does yna ddim pwynt i ni dwyllo ein hunain bod o fel arall.”

‘Y chant yn dead

Un o’r pethau allwch chi ddim mynd i gêm pêl-droed Cymru heb ei glywed ydi môr o Gymry mewn bucket hats yn bloeddio “Said he had a bad back, f*** the Union Jack”.

Cân Gareth Bale yw hon, sy’n cyfeirio at yr adeg pan wrthododd e fynd i chwarae i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd, gan honni ei fod wedi brifo ei gefn – rhywbeth sydd wedi troi’n dipyn o chwedl ymysg cefnogwyr Cymru.

Ond does dim llawer o ddyfodol iddi nawr fod y dyn ei hun wedi derbyn MBE, yn ôl Jason Morgan.

“Swni’n meddwl fod y chant yn dead, ‘de,” meddai.

“Dydi hwnna ddim yn mynd i ddal dŵr, bydd rhaid i ni feddwl am chant newydd.

“Swn i’n gobeithio y bydd pobol dal yn gefnogol ohono fo a ddim yn gorymateb gormod i’r peth.

“Achos dw i’n gwybod bod o’n wleidyddol i lot o bobol, ond dim yna ydi’r pwynt rili chwaith, pêl-droed ydi o ar ddiwedd y dydd.”

Cynllwyn gan y Wladwriaeth?

Mae’n debyg mai’r amseru sydd wedi gadael blas drwg yng nghegau llawer o gefnogwyr, gyda dathliadau’r Jiwbilî eisoes wedi dechrau, a gêm dyngedfennol Cymru yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

Fodd bynnag, nid “cynllwyn gan y Wladwriaeth” sydd ar waith, yn ôl Jason Morgan.

“Jyst digwydd bod amseru gwael ydi o,” meddai.

“Tasa ni wedi chwarae’r gêm pryd oedden ni fod wedi, fasa hyn ddim wedi digwydd.

“Felly dw i ddim yn edrych i mewn i hynna.”

‘Ffans gwleidyddol’

“Ffans gwleidyddol” yw’r sawl sy’n cwyno am Gareth Bale yn derbyn MBE yn hytrach na “ffans pêl-droed”, medd Jason Morgan.

“Y peth ydi mae mynd i Gwpan y Byd yn mynd i fod yn fwy o hwb i Gymru nac ydi o’n ergyd i rai pobol bod Gareth Bale yn cael MBE.

“Dw i’n gweld pobol yn gorymateb i’r peth, nes i weld Siôn Jobbins yn dweud ein bod ni ddim yn haeddu bod yn genedl pêl-droed achos hyn.

“Wel c’mon, mae isio ychydig bach o perspective.

“Dw i yn teimlo efallai bod lot o’r dicter yn dod gan bobol sydd wedi cael eu denu at bêl-droed oherwydd yr agwedd wleidyddol sy’n perthyn iddo fo, yr agwedd genedlaetholgar sy’n amgylchynu pêl-droed Cymru yn hytrach na’u bod nhw’n hogiau a merched ffwtbol ac yn dilyn Cymru’n selog.

“Dw i’n meddwl efallai bod lot o’r bobol sy’n cwyno yn ffans gwleidyddol yn hytrach na ffans pêl-droed.

“Dw i’n dallt pam bod pobol yn teimlo ychydig bach yn p***** off am y peth, ond ar ddiwedd y dydd, ni sydd wedi creu’r ddelwedd yma ohono fo heb fod yna unrhyw reswm i ni wneud yn y lle cyntaf.”