Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi rhyddhau wyth chwaraewr.

Mae cytundebau Lee Camp, Cameron Green, Dan Jarvis, David Jones, Jordan Ponticelli, Devonte Redmond, Dawid Szczepaniak a Kwame Thomas wedi dod i ben.

Bydd David Jones yn cael cynnig aros ar y Cae Ras fel hyfforddwr, ar ôl ymuno â’r clwb ym mis Awst.

Mae Jake Bickerstaff wedi cael cynnig estyniad am flwyddyn arall, ac mae disgwyl i Harry Lennon gael cynnig cytundeb newydd wrth iddo barhau i wella o anaf.