Bydd tîm criced Morgannwg gartref am y tro cyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Iau, Mehefin 2), wrth iddyn nhw groesawu Essex i Erddi Sophia yng Nghaerdydd.
Mae’r prif hyfforddwr Matthew Maynard wedi cyhoeddi carfan 15 dyn ar gyfer y gêm hon a’r ornest yng Ngwlad yr Haf nos fory (nos Wener, Mehefin 3).
Un fuddugoliaeth yn unig sydd gan Forgannwg yn eu tair gêm gyntaf, ar ôl curo Sussex o saith wiced yn Hove ond colli yn erbyn Surrey a Middlesex oddi cartref.
Maen nhw’n bumed ar hyn o bryd yng Ngrŵp y De.
Mae’r batiwr Eddie Byrom yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gwella o anaf ac yn dilyn perfformiadau campus i’r ail dîm, gan gynnwys 30 heb fod allan a 46 yn ei ddwy gêm ugain pelawd hyd yn hyn.
Bydd Michael Hogan yn chwarae am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ers iddo fe godi i frig wicedi’r sir yn hanes gemau ugain pelawd. Mae ganddo fe naw wiced y tymor hwn, ac mae e ar frig y rhestr yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.
Hanes gemau Morgannwg yn erbyn Essex yng Nghaerdydd
Morgannwg oedd yn fuddugol y tymor diwethaf yng Nghaerdydd, a hynny o saith wiced wrth i Nick Selman a Marnus Labuschagne daro hanner canred yr un, gyda’r ddau yn adeiladu partneriaeth hanfodol o 110 mewn 13.1 o belawdau.
Dydy Essex ddim wedi curo Morgannwg yng Nghaerdydd ers 2016, pan darodd Jesse Ryder 42 a Tom Westley 41 i sicrhau’r fuddugoliaeth o saith wiced.
Enillodd Essex o bum wiced yn 2015.
Chafodd y gemau mo’u cwblhau yn 2017 na 2019 oherwydd y tywydd, gyda Morgannwg yn fuddugol o chwe rhediad yn 2018.
‘Yr amserlen ydi’r amserlen’
“Rydan ni wedi cael taith ar y ffordd rŵan, a gall hynny fod yn eithaf anodd ar y corff, ond yr amserlen ydi’r amserlen,” meddai Matthew Maynard.
“Rydan ni’n chwarae llawer o griced, ac mae’n rhaid i ni ddisgwyl cael hynny.
“Mae gynnon ni garfan ddigon mawr i gylchdroi a gorffwys pe bai angen.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n agos iawn at y fformiwla hud.
“Dywedais i hynny wrth yr hogiau yn yr ystafell newid yn Radlett, a dw i’n meddwl ein bod ni’n agos iawn ati.
“Does ond angen i ni gael y partneriaethau batio hynny’n gweithio ychydig yn well efo’i gilydd, ac am yn hirach yn y batiad.
“Mae angen arnom ni eu bod nhw’n mynd ychydig yn ddyfnach a pheidio â meddwl o reidrwydd fod rhaid i’r belen nesaf fynd allan o’r parc, a cheisio batio mor ddwfn ag y medrwn ni, fel ddaru ni yn erbyn Sussex.”
Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), E Byrom, K Carlson, C Cooke, J Cooke, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Labuschagne, M Neser, S Northeast, A Salter, P Sisodiya, J Weighell
Carfan Essex: S Harmer (capten), B Allison, W Buttleman, S Cooke, M Critchley, A Nijjar, D Sams, S Snater, M Pepper, A Rossington, J Richards, P Walter, T Westley