Bydd cefnogwyr Cymru’n wynebu cosbau gan yr heddlu pe baen nhw’n rhedeg ar y cae ar ôl y gêm yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

Mae cefnogwyr hefyd wedi cael eu rhybuddio i beidio â dod â thân (flares) i Stadiwm Dinas Caerdydd, a’u bod nhw’n wynebu cael eu harestio a’u gwahardd o gemau pêl-droed am o leiaf dair blynedd pe baen nhw’n gwneud hynny.

Daw’r rhybudd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau tuag at ddiwedd y tymor

“Bydd unrhyw un sy’n rhedeg ar y maes chwarae yn destun achos troseddol,” meddai Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad.

“Mae hefyd yn hanfodol bwysig bod cyflwr yr arwyneb chwarae yn cael ei ddiogelu ar gyfer dwy gêm Cynghrair y Cenhedloedd UEFA sy’n cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 8 a Mehefin 11.

“Does dim modd defnyddio fflerau’n ddiogel mewn digwyddiadau pêl-droed, gyda’u defnydd yn peri llawer o risgiau a pheryglon iechyd megis colli eich golwg.

“Mae bod â dyfais pyrotechnegol mewn gêm bêl-droed neu geisio dod â dyfais o’r fath i stadiwm bêl-droed, yn drosedd o dan Ddeddf Digwyddiadau Chwaraeon 1985.

“Mae unrhyw berson sy’n cyflawni trosedd o’r fath yn wynebu gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, cael eu harestio a gorchymyn gwahardd pêl-droed o leiaf tair blynedd.

“Cynghorir cefnogwyr i beidio â theithio i Stadiwm Dinas Caerdydd heb docyn ac ni fydd unrhyw weithgaredd cefnogwyr y tu allan i’r stadiwm.

“Dyw’r gêm ddim yn cael ei darlledu’n gyhoeddus ac nid oes parth cefnogwyr yn dangos y gêm yng nghanol y ddinas.

“Cynghorir cefnogwyr heb docynnau i osgoi teithio oherwydd sawl digwyddiad arall sy’n cael eu cynnal ddydd Sul, Mehefin 5.”