Cipiodd Michael Hogan a Michael Neser dair wiced yr un cyn i Sam Northeast (44 oddi ar 44 pelen) osod y seiliau ar gyfer buddugoliaeth Morgannwg o chwe wiced dros Essex yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Daeth y fuddugoliaeth gyda 3.5 pelawd yn weddill.

Nid yn aml y clywch chi Hen Wlad Fy Nhadau’n atseinio yng Ngerddi Sophia ond dyna gafwyd ar ddechrau gornest ugain pelawd Morgannwg yn erbyn Essex heno (nos Iau, Mehefin 2).

Ar ddechrau penwythnos mawr, y gobaith yw y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn morio’i chanu hi ar benwythnos y Jiwbilî i foddi allan God Save the Queen, a fydd i’w chlywed ym mhob man ac a gafodd ei chwarae ar ôl ein hanthem genedlaethol ninnau yn y criced.

Os oedd angen ymarfer bloeddio mewn llawenydd cyn dydd Sul, 2.2 o belawdau yn unig gymerodd hi i gynhesu lleisiau’r dorf, gyda Michael Hogan yn cipio dwy wiced mewn pelawd wrth daro coes Will Buttleman o flaen y wiced cyn i Adam Rossington gael ei ddal gan Michael Neser yn tynnu’r bêl, gan adael yr ymwelwyr yn 11 am ddwy.

Roedd gwaeth i ddod i Essex, fodd bynnag, wrth i Michael Pepper erygdio’n syth at Dan Douthwaite oddi ar fowlio Neser am dri, a’r Eryr erbyn hynny’n 14 am dair, ac yn 17 am dair erbyn diwedd y cyfnod clatsio heb daro’r un ergyd i’r ffin.

Gyda Matt Critchley a Paul Walter wrth y llain, fe lwyddon nhw i achub Essex i ryw raddau, ond prin oedd yr ergydion i’r ffin o hyd, gyda phedwar pedwar a dau chwech wrth iddyn nhw gyrraedd 55 am dair erbyn hanner ffordd trwy’r batiad.

Doedd hi ddim yn hir cyn i’r wicedi cwympo eto, gyda Paul Walter yn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 20, cyn i’r un bowliwr waredu ei bartner Matt Critchley, a gafodd ei ddal yn sgwâr gan Marnus Labuschagne, a’u tîm yn 74 am bump.

Daeth dwy wiced oddi ar ddwy belen yn niwedd y bedwaredd pelawd ar ddeg, wrth i Dan Sams gael ei redeg allan gan Neser, cyn i Simon Harmer gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Hogan, ag Essex yn 81 am saith.

Roedden nhw’n 81 am wyth wedyn wrth i Aron Nijjar daro’r bêl yn syth i’r awyr oddi ar fowlio Neser, a Kiran Carlson yno i’w chasglu hi, ac er iddyn nhw groesi’r cant yn y ddeunawfed pelawd, collon nhw eu nawfed wiced wrth i Ben Allison gael ei ddal gan Neser wrth ergydio’n syth oddi ar Hogan, a’i dîm yn 100 am naw a llwyddo i gyrraedd 113.

Cwrso’n gryf

Er bod y nod yn edrych yn gymharol hawdd, pedair pelen yn unig gymerodd hi i Essex gipio’u wiced gyntaf, gyda David Lloyd wedi’i ddal gan Dan Sams oddi ar fowlio Ben Allison, a Morgannwg yn bedwar am un.

Gyda’r wiced fe ddaeth Marnus Labuschagne i’r llain, gyda’r dorf yn benderfynol o fwynhau’r hyn oedd ganddo fe i’w gynnig cyn iddo fe ddychwelyd i Awstralia, ac roedd Morgannwg yn 40 am un wrth i’r Awstraliad a Sam Northeast ddechrau edrych yn gyfforddus wrth y llain.

Ond cipiodd Essex eu hail wiced wrth i’r dyfarnwr gymryd oes i roi Marnus Labuschagne allan, gydag Aron Nijjar â’r tafliad cywir, a Morgannwg yn 47 am ddwy yn yr wythfed pelawd.

Cael a chael oedd hi o ran y sgôr, oedd yn gyfartal wedi deg pelawd er bod Morgannwg wedi colli un wiced yn llai, ond cwympodd eu trydedd wiced pan gafodd Kiran Carlson ei stympio gan Adam Rossington oddi ar fowlio Matt Critchley, a’r sgôr yn 78 am dair yn y drydedd pelawd ar ddeg.

Cwympodd y bedwaredd wiced ar 90 pan gafodd Northeast ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Nijjar, ond doedd Dan Douthwaite ddim eisiau aros wrth y llain yn hir, wrth daro chwech a phedwar wrth i Forgannwg gyrraedd y cant.

Aeth dwy ergyd chwech Chris Cooke â Morgannwg o fewn dau rediad i’r nod yn ail belawd ar bymtheg oddi ar fowlio Dan Sams, a phelen anghyfreithlon yn golygu bod Morgannwg yn ennill heb orfod taro ergyd fuddugol.

‘Mr Dibynadwy’

“Mae hi bob amser yn braf cael dechrau gyda buddugoliaeth ar eich tomen eich hun,” meddai Michael Neser.

“Gawson ni dorf wych, a chryn wefr o amgylch y cae.

“Mae [Michael] Hogan wedi bod yn ei gwneud hi bob gêm i ni hyd yn hyn, mae e’n Mr Dibynadwy.

“Mae e’n mynd yn wych, dw i’n meddwl bod ei berfformiadau fe drwy gydol y gystadleuaeth hon wedi bod yn wych, mae e’n parhau â’i berfformiadau pêl goch yn y T20.

“Roedd dau gyflymdra i’r llain.

“Fel uned fowlio, fe wnaethon ni ganfod yr amodau’n eithaf cynnar, a wnaeth hynny ein helpu ni i’w cyfyngu nhw i’r hyn wnaethon ni.

“Fel uned, fe wnaethon ni fowlio’n wych.”