Mae Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd.

Fe enillodd Plaid Cymru fwyafrif ar Gyngor Gwynedd yn yr etholiadau lleol fis diwethaf.

Bydd Nia Jeffreys, sy’n cynrychioli Dwyrain Porthmadog, yn Ddirprwy Arweinydd gyda chyfrifoldeb am faterion gweithredol Economi a phrif raglenni trawsadrannol.

Mae Dyfrig Siencyn hefyd wedi cadarnhau y bydd pedwar aelod newydd yn ymuno â’r Cabinet.

Mae’r rhain yn cynnwys Elin Walker Jones, sy’n cynrychioli Glyder ac a fydd yn arwain maes Plant a Phobol Ifanc, a Menna Jones sy’n cynrychioli Bontnewydd ac a fydd yn Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a Chyfreithiol.

Yn y cyfamser, Beca Brown, sy’n cynrychioli Llanrug, yw’r Aelod Cabinet newydd dros Addysg, ac mae’r Cynghorydd Berwyn Parry Jones, sy’n cynrychioli Cwm-y-Glo, wedi’i benodi i fod yn gyfrifol am Briffyrdd a Bwrdeistrefi ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.

Mae Dafydd Meurig, sy’n cynrychioli Arllechwedd, yn parhau yn aelod o’r Cabinet gan arwain ar faes yr Amgylchedd, tra bod Craig ab Iago, sy’n cynrychioli Pen-y-groes, yn parhau i fod yn gyfrifol am bortffolio Tai ac Eiddo.

Mae Ioan Thomas, sy’n cynrychioli Menai yng Nghaernarfon. yn parhau i fod yn Aelod Cabinet dros Gyllid a Thechnoleg Gwybodaeth, tra bod Dilwyn Morgan, sy’n cynrychioli’r Bala, yn symud i fod yn gyfrifol am faes Oedolion, Iechyd a Llesiant.

‘Tîm newydd cyffrous’

“Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm newydd y Cabinet wrth i ni weithio tua’r nod o ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i bobol Gwynedd,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Mae gennym dîm newydd cyffrous sy’n gyfuniad da o leisiau profiadol ac aelodau newydd brwdfrydig.

“Rydw i hefyd yn hynod falch mai hwn ydi’r Cabinet mwyaf cytbwys o ran merched a dynion i Gyngor Gwynedd erioed ei gael.

“Rydym yn edrych ymlaen at fwrw i’r gwaith pwysig o gyflawni dros gymunedau’r sir.”