Mae’n rhaid diwygio a chryfhau’r Senedd erbyn 2026, un o’i phwyllgorau.
Yn ôl adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, mae’r pwyllgor yn cynnig pecyn radical o ddiwygiadau a fydd yn arwain at:
- graffu mwy pwerus ar y llywodraeth
- aelodaeth fwy amrywiol, gan gynnwys gwell cynrychiolaeth i fenywod
- symud oddi wrth y system ‘aelodau cymysg’ bresennol i system bleidleisio gyfrannol
- cynyddu nifer yr Aelodau i 96
- diwygio ffiniau
Yn ôl y pwyllgor, dylai Cymru arwain y ffordd i wledydd eraill y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno cwota rhywedd.
Dylid gwneud hyn oll erbyn 2026, meddai’r pwyllgor, sydd wedi nodi amserlen glir, a’r disgwyl yw y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil diwygio’r Senedd y flwyddyn nesaf.
‘Senedd gryfach a llais cryfach i bobol Cymru’
“Mae ein hadroddiad yn gosod cynllun ar gyfer Senedd gryfach a fydd yn rhoi llais cryfach i bobl Cymru,” meddai Huw Irranca Davies, cadeirydd y pwyllgor.
“Mae’r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl.
“Mae ei phwerau wedi cynyddu i gyd-fynd ag uchelgeisiau ein cenedl fodern a balch.
“Bellach gall ddeddfu a gosod trethi i Gymru, sef materion sy’n effeithio ar fywydau pob person yng Nghymru.
“Gyda mwy o bwerau, rhaid sicrhau mwy o atebolrwydd.
“Mae arnom angen senedd a all graffu’n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ar ran y cyhoedd y mae’n eu gwasanaethu.
“Nid yw’r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai gael ei wneud.
“Rydyn ni’n credu bod diwygio’n hanfodol, a bod modd ei gyflawni erbyn 2026.”
‘Adlewyrchu cymunedau Cymru yn well’
Er gwaethaf cyfrifoldebau cynyddol, mae’r Senedd bresennol yn dal i fod yn llai na’r deddfwrfeydd datganoledig eraill.
Mae gan Senedd yr Alban 129 o Aelodau ac mae gan Gynulliad Gogledd Iwerddon 90 o Aelodau.
Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd 60 o Aelodau.
“Bydd y newidiadau yr ydym yn eu hargymell yn gam cadarnhaol tuag at wneud i’n Senedd adlewyrchu cymunedau Cymru yn well,” meddai Huw Irranca Davies wedyn.
“Bydd arwain y ffordd ar gwotâu rhywedd yn rhoi i fenywod – grŵp mwyafrifol yng Nghymru – sicrwydd o gynrychiolaeth deg, a all ond arwain at ganlyniadau gwell a thecach i bob un ohonom.
“Byddai hyn yn hybu taith y Senedd i wneud yn well o ran adlewyrchu profiadau, anghenion a gobeithion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu, gan helpu pobl i deimlo’u bod yn cael eu cynnwys yn well, a bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn well yn y broses ddemocrataidd.”
Argymhellion
Yn ôl argymhellion y Pwyllgor, dylid parhau â’r daith tuag at ddiwygio drwy gyflwyno Bil gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Mae lle i gredu y gallai hyn gael Cydsyniad Brenhinol erbyn mis Mai 2024, mewn pryd i ddechrau adolygiad o’r ffiniau, gyda’r nod o gwblhau hyn erbyn mis Ebrill 2025.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno cynigion manwl ar gyfer system etholiadol newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o roi mwy o gyfranoldeb ac adlewyrchu ewyllys pobol Cymru yn well.
Mae’n argymell defnyddio rhestrau cyfrannol caeedig a bod seddi’n cael eu dyrannu gan ddefnyddio system D’Hondt, sef y system sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer rhestrau rhanbarthol y system etholiadol bresennol.
Yn ôl yr argymhellion, dylai fod 16 o etholaethau a dylai pob un gael yr un nifer o Aelodau, sef chwech.
Dylai etholiadau 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar ôl iddo gwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023.
Dylid paru’r rhain i greu 16 o etholaethau aml-aelod newydd.
Mae cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor wedi’i gyflwyno ar gyfer 8 Mehefin 2022.
‘Heriau’n wynebu Cymru yn y blynyddoedd anodd i ddod’
Yn ôl Jane Dodds, fel aelod o’r pwyllgor mae hi’n “canolbwyntio erioed ar sicrhau bod gan ein Senedd Cymru genedlaethol yr offer i ateb yr heriau fydd yn wynebu Cymru yn y blynyddoedd anodd i ddod”.
“Mae pwerau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’n fawr dros y ddau ddegawd diwethaf,” meddai.
“Mae’r hyn a gafodd ei greu’n Gynulliad yn y lle cyntaf bellach yn Senedd.
“Yn yr etholiad diwethaf, pleidleisiodd pleidleiswyr i raddau helaeth dros bleidiau sydd eisiau Senedd gryfach, tra bod pleidiau oedd eisiau ei diddymu’n llwyr wedi’u trechu’n gadarn.”
Dywed ei bod hi’n “cefnogi’n gryf” ehangu’r Senedd i 96 Aelod a thra ei bod hi’n cydnabod y gost ychwanegol, mae hi’n dweud y bydd y cynnydd yn arwain at “well craffu a phenderfyniadau mwy cost-effeithiol yn y Llywodraeth”, yn ogystal â “mwy o graffu hanfodol gan y meinciau cefn sy’n hanfodol i wella penderfyniadau”.
Dywed fod ei phlaid eisiau Deyrnas Unedig ffederal, y bleidlais sengl drosglwyddadwy a “Senedd sy’n gwbl atebol i’w chynrychiolwyr etholedig”.
“Nid diwedd y daith yw’r cyhoeddiad heddiw,” meddai wedyn.
“Ein huchelgais yw Deyrnas Unedig ffederal lle mae grym a dilysrwydd yn llifo o’i rhannau fel mater o gydsyniad, lle caiff penderfyniadau eu gwneud drwy gyfrannu, mor agos at bobol â phosib.”
‘Dim syndod’
Dydy cynnwys yr adroddiad “ddim yn syndod”, yn ôl Darren Millar, llefarydd Cyfansoddiad y Ceidwadwyr Cymreig.
“Maen nhw, yn syml iawn, yn ailadrodd y cyfarwyddiadau a gafodd eu rhoi i aelodau Llafur a Phlaid Cymru o’r pwyllgor gan arweinydd eu pleidiau sydd yn [sic],” meddai.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn ategu ein gwrthwynebiad cryf i gynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd.
“Mae angen mwy o feddygon, deintyddion, nyrsys ac athrawon ar Gymru, nid mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd.
“Dydy pobol Cymru ddim wedi cael dweud eu dweud ar y cynigion manwl hyn.
“Dydyn nhw ddim wedi cymeradwyo system bleidleisio sy’n torri atebolrwydd uniongyrchol eu cynrychiolwyr etholedig ac yn rhoi mwy o rym i bleidiau gwleidyddol orfodi eu hymgeiswyr ar bobol leol, a dydyn nhw ddim chwaith wedi rhoi’r golau gwyrdd i system sy’n hybu un agwedd ar amrywiaeth dros un arall.”
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cynigion “yn wastraff amser ac arian” gan gyhuddo Llafur a Phlaid Cymru o “wleidyddiaeth pwrs y wlad er elw etholiadol”.
“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Canghellor amlinellu gwerth £15bn ychwanegol o gyllid i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol tra bod gweinidogion Llafur yn boddio’u ego sydd eisoes yn rhy fawr,” meddai.
“Yn y cyfamser, beth mae Llafur yn ei wneud i fynd i’r afael â phwysau costau byw? Chwyddo maint y Senedd ar draul trethdalwyr.
“Dyna arian a allai gael ei wario ar helpu i leddfu’r pwysau mae cyllidebau cartref yn ei wynebu.
“Hyd yn oed os ydych chi’n cytuno â mwy o wleidyddion, all hi ddim bod yn iawn fod Llafur a Phlaid yn mynnu cael eu ffordd o ran yr etholaethau lle mae pobol yn bwrw eu pleidlais.
“Mae’n drewi o wleidyddiaeth pwrs y wlad er elw etholiadol.”
‘Senedd gryfach â mwy o allu i wneud gwahaniaeth yn hwb enfawr i ddemocratiaeth Cymru’
“Bydd Senedd gryfach sydd â mwy o allu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ledled ein gwlad yn hwb enfawr i ddemocratiaeth Cymru,” meddai Rhys ab Owen, llefarydd cyfansoddiad Plaid Cymru.
“Mae STV yn parhau i fod yn bolisi Plaid Cymru.
“Rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan yr un blaid yn y Senedd y mwyafrif o ddwy ran o dair sydd ei hangen i ddiwygio.
“Fel y noda’r adroddiad ei hun, yn y trafodaethau trawsbleidiol sydd wedi’u cynnal ar ddiwygio, cyflwynwyd STV – ochr yn ochr â rhestrau agored neu hyblyg, rhwng 90 a 100 o aelodau, deddfu ar gyfer cwotâu rhywedd a chyflwyno diwygiadau erbyn 2026 – fel ein blaenoriaethau allweddol.
“Rydym wrth ein bodd y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflawni yn awr, ochr yn ochr â system bleidleisio gyfrannol.
“Mae Senedd sy’n fwy modern, yn fwy amrywiol, ac yn fwy ymatebol i anghenion pobl Cymru yn gam yn nes at gael ei gwireddu – gwrthgyferbyniad amlwg i anhrefn San Steffan.
“Mae Plaid Cymru yn falch iawn y bydd ein gweledigaeth a’n parodrwydd i gydweithio nawr yn gwneud i hyn ddigwydd – bron i ugain mlynedd ers cyhoeddi cynlluniau i ddiwygio’r Senedd am y tro cyntaf.”