Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi ategu ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno rhaglen benodol i Gymru ar ddiogelwch adeiladu, gan feirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am roi sylw i Loegr yn unig.
Daw hyn er i lywodraethau Cymru a’r Alban gyflwyno tystiolaeth i sicrhau bod ganddyn nhw gynlluniau a diwygiadau diogelwch adeiladau sy’n addas at y diben.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n credu y dylai datblygwyr gyfrannu at y gost o fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sy’n codi.
Ac er eu bod nhw’n dweud eu bod nhw’n awyddus i gydweithio â datblygwyr i ddatrys unrhyw broblemau, mae hi’n rhybuddio ei bod hi’n “barod i ddefnyddio’r holl bwerau” sydd ganddi pe bai’n rhaid eu gorfodi nhw i weithredu.
Roeddwn i’n wir siomedig pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Ffyniant Bro a Chymunedau Michael Gove fis diwethaf mai ar gyfer Lloegr yn unig y byddai’r ardoll diogelwch adeiladau ac adduned y datblygwyr. Er erfyniadau croch a chlir gan Lywodraethau Cymru a’r Alban, bydd yr adduned a’r contract cysylltiedig yn bethau i Loegr yn unig.
‘Estyn adduned i Gymru’
“Mae rhai datblygwyr eisoes wedi estyn yr adduned i Gymru,” meddai Julie James, wrth grybwyll yr adeiladwyr hynny sy’n barod i gydweithio i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Mae hynny’n gam adeiladol iawn ymlaen ac rwy’n eu canmol.
“Trwy wneud, byddan nhw’n dod â dioddefaint lesddeiliaid a holl drigolion yr adeiladau dan sylw i ben, gan helpu hefyd i adennill enw da’r diwydiant.
“Rwy’n siŵr nad unigolion prin yw’r datblygwyr hyn a bod yna eraill yn y diwydiant sy’n credu fel finnau bod ganddynt gyfrifoldeb am yr adeiladau y gwnaethon nhw eu datblygu yng Nghymru.
“Rwyf wedi ysgrifennu at bob datblygwr – y rheini sydd wedi llofnodi’r adduned yn Lloegr a’r rheini sydd ddim – yn eu gwahodd i gwrdd â fi i drafod eu hamserlenni ar gyfer trwsio’r diffygion diogelwch yn eu hadeiladau yng Nghymru.
“Er y byddai’n well gennyf gydweithio â datblygwyr i wneud y gwaith unioni sydd ei angen ar lesddeiliaid yng Nghymru, rwy’n barod i ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennyf wrth law i fynd ar ôl y datblygwyr sydd ddim am gydweithio.
“Rwyf wedi cyhoeddi rhestr o ddatblygwyr sydd wedi dewis peidio â chydweithio â fi.
“Rwy’n bendant fy marn y dylai peidio â chydweithio arwain at ganlyniadau arwyddocaol o ran eu busnes a’u henw da i’r cwmnïau dan sylw.”