Mae drysau Castell y Gelli wedi’u hagor am y tro cyntaf erioed i’r cyhoedd ers dydd Gwener (Mai 27).
Daw hyn yn dilyn prosiect adnewyddu mawr sydd wedi para degawd ac sydd wedi dod i ben mewn da bryd ar gyfer Gŵyl y Gelli yn nhref y Gelli Gandryll ym Mhowys (Mai 26 i Fehefin 5).
Mae’r prosiect wedi denu dros £5m o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £2m o gyllid cyfatebol gan ymddiriedolaethau a rhoddwyr unigol.
Diolch i’r prosiect, mae Castell y Gelli wedi dod yn ganolbwynt pwysig i dreftadaeth, yn ganolfan ddysg a chelfyddydau newydd ac yn ofod i’r gymuned.
Yn sgil y gwaith adnewyddu, mae atriwm newydd sbon yn y castell i gyd-fynd â gwaith carreg y castell ac fe fydd yn ofod ar gyfer perfformiadau cerddorol a theatrig, gweithdai, sioe celfyddydol a digwyddiadau diwylliannol.
Drwy gydol yr haf, rhwng Mai 27 ac Awst 31, bydd arddangosfa Portreadau Awduron yn yr atriwm, sy’n rhan o brosiect rhwng y National Portrait Gallery a lleoliadau amrywiol yn y Deyrnas Unedig i fynd ag arddangosfeydd ar daith.
Yr awdur a newyddiadurwr Dylan Jones sy’n curadu’r arddangosfa, sy’n gasgliad o 14 o bortreadau o awduron o wledydd Prydain ac sy’n cynnwys gweithiau gan Tracey Emin a Salman Rushdie ymhlith eraill.
“Mae gan Gastell y Gelli hanes cyfoethog dros 900 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn, cafodd ei losgi i lawr, ei ailadeiladu ac fe fu’n destun ymosodiad gan Owain Glyndŵr,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.
“Nawr, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith adnewyddu helaeth wedi digwydd a nawr, mae dyfodol Castell y Gelli wedi’i sicrhau am genedlaethau ac o bosib am ganrifoedd i ddod.”
Agor mewn da bryd cyn Gŵyl y Gelli
Daw’r agoriad mewn da bryd ar gyfer penwythnos cyntaf Gŵyl y Gelli y penwythnos hwn.
Ar ddechrau’r ŵyl, mae’r castell yn cydweithio â’r ŵyl a Shakespeare’s Globe i lwyfannu naw perfformiad o Julius Caesar mewn theatr awyr agored yn y castell.
Bydd yr actorion yn ail-greu’r gwiath ar gyfer cynulleidfaoedd cyfoes, a bydd danteithion ar gael o gaffi’r castell sy’n hybu cynnyrch lleol.
Yn ystod yr ymweliad, bydd modd clywed hanesion am y castell gan ddefnyddio ffôn clyfar neu drwy sganio cod QR, a bydd byrddau ar gael gydag iPad lle bydd modd gweld lluniau o’r castell a gwylio fideos wedi’u hanimeiddio i gael gwybod mwy am y gorffennol.
Bydd gofod addysg yn y castell yn cynnig lleoliad i bob aelod o’r teulu gael dysgu mwy, i fod yn rhan o weithdai ac er mwyn i ysgolion fynd ar ymweliadau i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau – o ddylunio tarian i godi Castell y Gelli gan ddefnyddio blociau a mynd ar helfa drysor.
Bydd modd i blant wisgo gwisgoedd traddodiadol yn ystod ymweliadau hefyd.
“Ein nod yw ailddyfeisio’r syniad o’r hyn ddylai castell fod yn yr unfed ganrif ar hugain,” meddai Tom True, Cyfarwyddwr Gweithredol Castell y Gelli.
“Yn symbol unwaith o reolaeth a dinistr lle mai ychydig o bobol oedd yn byw yno, mae Castell y Gelli yn symbol o fod yn agored a chreadigrwydd i bawb.
“Yng nghanol y dref, wedi’i amgylchynu gan ein cefn gwlad hardd, byddwn yn dathlu popeth sy’n gwneud y Gelli’n arbennig, boed hynny’n adrodd straeon, meddwl yn annibynnol, neu dreftadaeth ein tiroedd gwledig ar y ffin.”