Mae’r newyddiadurwr a chyflwynydd newyddion Huw Edwards yn dweud bod Tywysog Charles yn “cymryd ei ddyletswyddau fel Tywysog Cymru o ddifri”.

Daw ei sylwadau mewn cyfweliad â’r Daily Mail ar drothwy Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr.

Yn y cyfweliad, mae’n dweud ei fod e’n “cadw digon o bellter” rhyngddo fe a’r teulu brenhinol er mwyn gallu gwneud ei waith, a bod hynny’n golygu nad yw e wedi dod i adnabod y Frenhines yn dda, ac eithrio ambell sgwrs fer gyda hi.

Ond mae e wedi dod i adnabod ei mab yn well, meddai, gan gyfeirio at ddod i gysylltiad â fe rai blynyddoedd yn ôl yn yr Alban.

“Dw i’n hoff o’r ffaith fod ganddo fe farn gref, ond ei fod e’n eich gwahodd chi i leisio’ch barn chi, ac yn gwrando,” meddai Huw Edwards.

“Mae ganddo fe synnwyr digrifwch arbennig, er nad yw llawer o bobol yn ei ddeall e.

“Mae e’n ecsentrig yn ei ffordd ei hun, ond mae hynny’n eithaf apelgar.

“Gall fod yn ddengar o onest.

“Mae’r holl bethau hynny’n creu argraff arna i.”

Dysgu Cymraeg

Yn enedigol o Ben-y-bont ar Ogwr, cafodd Huw Edwards ei fagu yn Llangennech, yn fab i Aerona, oedd yn athrawes, a’r Athro Hywel Teifi Edwards, oedd yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Ac mae’n cyfaddef yn y cyfweliad y gallai ei safbwyntiau am y teulu brenhinol gorddi ei ffrindiau sy’n weriniaethwyr.

“Ond mae Tywysog Charles wedi cymryd ei ddyletswyddau fel Tywysog Cymru yn hollol o ddifri,” meddai.

“Fe ddysgodd e Gymraeg.

“Mae e wedi darllen yn eang am hanes Cymru.

“Mae e’n ymddiddori ym mywyd a diwylliant Cymru.

“Allwch chi ddim ei feirniadu fe am y ffordd mae e wedi mynd o gwmpas ei waith.”