Mae Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Boris Johnson o “ddifetha” y Cod Gweinidogol.
Daw hyn ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig newid y Cod fel bod modd i weinidogion sy’n torri’r Cod ymddiheuro neu golli eu cyflog dros dro yn hytrach na gorfod ymddiswyddo.
Ac fe ddaw ar ôl cyfres o dorri rheolau gan weinidogion, gan gynnwys Boris Johnson ei hun, yn sgil partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
“Ddiwrnodau’n unig ar ôl ffugio edifeirwch wrth ymateb i adroddiad Sue Gray yn y Senedd, mae Boris Johnson yn difetha’r Cod Gweinidogol er mwyn galluogi gweinidogion, gan gynnwys fo ei hun, i dorri’r rheolau,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae hwn yn gam sy’n amlwg yn llwgr er mwyn dinistrio’r hyn sy’n weddill o atebolrwydd democrataidd yn San Steffan.
“Mae’r ffaith fod Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig yn parhau i odde’r camddefnydd syfrdanol hwn o rym yn wirioneddol warthus.
“Rhaid symud Boris Johnson o’i swydd.”