Mae ceffylau wedi dychwelyd i’r buarth traddodiadol yn Llanerchaeron gerllaw Aberaeron, sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Mae Tomos a Seren, dau gob deunaw oed, wedi bod yn byw gyda’i gilydd ers dros ddegawd.

Yn ddiweddar, mae’r ddau wedi symud i’r buarth yng Nghymru.

Bydd ymwelwyr yn gallu mynd i weld y ceffylau yn y bloc stablau yn ystod amseroedd penodol yn ystod y dydd.