Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae dau ddyn sy’n wynebu cyhuddiadau o greulondeb i blant mewn uned addysgol yng Ngwynedd wedi ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Roedd Garry Vaughan Roberts, 43 oed, o Gaernarfon a Sion Bedwyr Evans, 41 oed o Lanrug yn aelodau o staff Canolfan Brynffynnon yn y Felinheli a gaeodd ym mis Mai 2014.

Mae’r ddau yn wynebu cyfanswm o 50 o gyhuddiadau a hynny yn erbyn plant ‘bregus’ sy’n iau na 16 oed.

Bydd yr achos yn eu herbyn yn cychwyn ar 17 Hydref y flwyddyn nesaf. Mae disgwyl i’r ddau gyflwyno ple ym mis Ebrill.

Mae’r ddau ddiffynnydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad ydyn nhw’n cysylltu â thystion yr erlyniad.