Sammy-Jo Davies
Mae gyrrwr a oedd wedi cludo saith o bobl mewn fan cyn gyrru’n wyllt drwy strydoedd Aberdâr, gan ladd merch yn ei harddegau, wedi clywed y gall wynebu cyfnod hir yn y carchar.

Roedd Kyle Perkins, 25, wedi rhoi saith o bobl yn y fan coch, a oedd wedi’i ddwyn,  cyn bod mewn gwrthdrawiad yn Nheras Bryn, Aberdâr ar 3 Awst.

Bu farw Sammy-Jo Davies, 19, yn y fan a’r lle.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw bod chwech o bobl eraill wedi’u cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Fe ymddangosodd Perkins, o Gwmaman, Aberdâr yn y llys heddiw. Mae wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus, achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus a dwyn cerbyd. Mae hefyd wedi cyfaddef gyrru heb yswiriant.

Dywedodd y Barnwr Richard Twomlow y byddai’n gohirio ei ddedfrydu tan fis Ionawr fel bod adroddiad yn gallu cael ei baratoi.

Fe rybuddiodd Perkins ei fod yn wynebu dedfryd “sylweddol” dan glo.