Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio am wybodaeth wedi i fwy na 100 o geir gael eu difrodi yn ystod y deuddydd diwethaf o gwmpas Casnewydd.
Ers nos Sul, Rhagfyr 20, mae 105 o gerbydau wedi’u difrodi ar Heol Hawthorne a’r strydoedd cyfagos yn Somerton, Casnewydd.
Cafodd yr heddlu adroddiadau bod 12 cerbyd arall wedi’u difrodi dros nos o gwmpas Heol Heather, Casnewydd.
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn, 30 oed, o Gasnewydd ar amheuaeth o achosi’r difrod troseddol.
Ond maen nhw’n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y troseddau i gysylltu â nhw gan ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod: 29 21/12/15.