Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed yr wythnos hon, ac fel mae Rheolwr Addysg a Dehongli’r Amgueddfa’n dweud wrth golwg360, maen nhw wedi bod yn cynnal llu o ddigwyddiadau amrywiol i nodi’r garreg filltir arbennig.

Cafodd y gweithdai Fictoraidd gwreiddiol – sy’n gartref erbyn hyn i’r Amgueddfa Lechi – eu cau ym mis Awst 1969 ynghyd â chwarel lechi Dinorwig, ond ailagorodd y safle ar Fai 25, 1972.

Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y dathliadau’n cynnwys arddangosfa o ffotograffau a chreiriau, ynghyd â gwaith celf gan blant ysgolion lleol, cyfres o sgyrsiau gan staff presennol yr amgueddfa a chyn-staff, a gweithgareddau’n dathlu crefftau traddodiadol y safle.

Bydd yr amgueddfa hefyd yn cyflwyno cymeriad newydd i ymwelwyr i geisio dehongli bwrlwm yr ailagor yn 1972, sef Wil Ffitar, a fydd yn adrodd hanes y safle pan oedden nhw’n weithdai, a’i waith yno wrth baratoi ar gyfer yr ymwelwyr cyntaf ar y diwrnod agoriadol.

‘Mae cryn dipyn wedi newid yma’

“Ers y diwrnod hwnnw’n 1972, mae cryn dipyn wedi newid yma yn yr Amgueddfa – yr enw yn un ohonynt – agorwyd hi fel Amgueddfa Chwareli Gogledd Cymru pryd hynny,” meddai Elen Roberts, Pennaeth yr Amgueddfa.

“Erbyn hyn mae dros tair miliwn o bobol wedi camu trwy’r porth mawr a wedi profi hanes y diwydiant llechi!

“Rydyn ni am i’r penblwydd yma yn 50 oed adlewyrchu a dathlu yr holl weithgaredd mae’r lle arbennig yma wedi’i weld dros y degawdau diwethaf, o’r dyddiau agoriadol yn y saithdegau i’r ailddatblygu mawr fu yn niwedd y nawdegau i gyflwyno Mynediad am Ddim yn mileniwm newydd – a nawr ei rhan fel Statws Treftadaeth y Byd yn sgil y dynodiad diweddar y llynedd – a hyn i gyd wrth gwrs wrth gofio am ei phwrpas gwreiddiol fel gweithdai peirianyddol i gefnogi Chwarel Dinorwig.”

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y dathliadau drwy fynd i’r wefan www.amgueddfa.cymru/llechi ac i gyfryngau cymdeithasol yr amgueddfa, sef ‘AmgueddfaLechiCymru / NationalSlateMuseum’ ar Facebook, @amgueddfalechi ar Twitter a NationalSlateMuseum ar Instagram.

Gweithio gydag ysgolion

Yn ôl Lowri Ifor, Rheolwr Addysg a Dehongli’r Amgueddfa, maen nhw wedi bod yn cydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd yr ardal leol ar brosiect i ddathlu’r pen-blwydd mawr.

“Fe wnaethon ni ddechrau yn ôl ym mis Chwefror efo blwyddyn 7 Ysgol Brynrefail ac fe wnaethon ni weithio efo pob disgybl yn y flwyddyn,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaethon ni wneud dwy ochr i’r prosiect yna mewn ffordd achos ein bod ni wedi bod yn gweithio efo’r ysgol mewn ffordd mwy traws-gwricwlaidd.

“Fuon nhw’n gweithio efo’r artist Rhys Grail, fe wnaethon nhw ddod yma i’r amgueddfa ac arbrofi efo gwahanol fathau o ffotograffiaeth – cameras disposable, cynoteip, defnyddio hen sganer i wneud ffotograffau digidol.

“Fuon nhw’n golygu a gwneud collages digidol efo’r gwaith, ac mae hwn wedi creu cyfres o ddelweddau sy’n dangos yr amgueddfa drwy eu llygaid nhw.

“Mae hwnna’n rhan o’r arddangosfa sydd yma ar hyn o bryd yn dathlu’r pen-blwydd.

“Ail ran y prosiect efo Ysgol Brynrefail oedd gweithio efo’r actor a’r awdur Rhian Cadwaladr, mae Rhian wedi gweithio efo ni ar safle yma ers chwarter canrif bellach gan chwarae nifer o’n cymeriadau ni.

“Ar gyfer hwnna, roedden ni’n sbio efo’r plant ar be ydy mathau gwahanol fathau o ddehongli mewn amgueddfa a sut wyt ti’n gallu cyfathrebu gwybodaeth i ymwelwyr mewn ffyrdd creadigol.

“Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar ran o’r amgueddfa o’r enw’r Gweithdy Peirianneg, neu’r Fitting Shop, mae’n ran diddorol o’r amgueddfa ac mae yna lot o hen beiriannau yno ond ychydig iawn o ddehongli sydd wedi bod yna cyn rŵan.

“Roedden ni’n teimlo ein bod ni eisiau rhoi rhywbeth arall yna i nodi’r pen-blwydd a dod â’r hanes yn fwy byw.

“Fe wnaeth disgyblion Brynrefail wneud gwaith ymchwil, sgriptio, a gweithio efo Rhian er mwyn creu syniadau ar gyfer y cymeriad yma.

“Mae Rhian wedi sgriptio cymeriad o’r enw Wil Ffitar, ac roedd Wil Ffitar yn gymeriad fuodd yn gweithio yn y Gilfach Ddu o 1946 tan 1969.

“Iwan Charles sy’n chwarae cymeriad Wil Ffitar.

“Mi fydd Iwan efo ni penwythnos yma (Mai 28 a 29), a bydd Wil Ffitar yn ymuno efo’n suite ni o gymeriadau a dros yr haf bydd y cymeriadau gwahanol yma i weld ar wahanol adegau felly i bobol gadw llygaid allan ar ein gwefan ni am pwy sydd yma pryd.

“Mae o’n ychwanegu lot i’r profiad.”

Ysgolion cynradd

“Wedyn rydyn ni wedi gweithio efo ysgolion cynradd y dalgylch i gyd hefyd, mae gennym ni chwech ysgol gynradd yn y dalgylch ac fe wnaeth yna ddosbarth o bob un o’r ysgolion ddod i’r ysgolion,” meddai wedyn.

“Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gweledol i ddathlu’r pen-blwydd fel bod pobol yn gwybod bod yna rywbeth yn digwydd yma.

“Be wnaethon ni oedd gweithio efo’r plant i greu baneri, fel bunting, i nodi’r pen-blwydd. Maen nhw wedi gwneud baneri tiedye yma, a dysgu lot am dechnegau lliwio traddodiadol.

“Wedyn fuon nhw hefyd yn cael gweithdai yn yr ysgolion wedyn, ar ôl hel syniadau yma ar y safle.

“Maen nhw wedi gweithio efo artistiaid yn yr ysgolion i greu’r baneri. Dw i’n sbio drwy’r ffenest rŵan, ac mae yna tua 350-400 o faneri yn hongian yn y glaw!

“Fydd rheiny yma tan o leiaf hanner tymor i bobol eu gweld.

“O ran y dathliadau’n gyffredinol, mae gennym ni arddangosfa’n dangos gwaith creadigol Ysgol Brynrefail a rhai o’r baneri.

“Ymysg y digwyddiadau sydd gennym ni yma mae yn gyfres o sgyrsiau a theithiau ar y safle, mae yna ddiwrnod cyfan o grefftau sy’n dathlu crefft hynafol y Gilfach Ddu, wedyn nos Lun rydyn ni’n cael noson i bobol ifanc o’r enw Hwyrnos felly fyddan ni ar agor jyst i bobol ifanc 12 i 15 oed.”