Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd draw yn Sbaen i bwysleisio bendithion wythnos weithio pedwar diwrnod.

Bydd Peredur Owen Griffiths yn dweud wrth gynhadledd ryngwladol fod wythnos waith yn para pedwar diwrnod yn hanfodol i’r economi, yr amgylchedd a lles gweithwyr.

Bwriad y gynhadledd yw trafod rhinweddau wythnos waith llai.

Mae e’n rhan o ddirprwyaeth ryngwladol yn Valencia lle mae’r Llywodraeth ranbarthol eisoes wedi sefydlu cynllun i hyrwyddo wythnos waith yn para pedwar diwrnod.

‘Manteision enfawr’

Cyn siarad mewn trafodaeth banel, dywedodd Peredur Owen Griffiths fod “manteision wythnos pedwar diwrnod yn enfawr”.

“Maent yn dda i’r economi gan fod treialon wedi dangos eu bod yn cynyddu cynhyrchiant, yn lleihau absenoldeb ac yn caniatáu i’r economi bontio’n ddidrafferth i gynyddu awtomeiddio,” meddai.

“Mae llai o wythnosau gwaith hefyd yn dda i’r amgylchedd gan eu bod yn lleihau cymudo ac yn cymryd miliynau o geir oddi ar y ffordd, gan leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol.

“Maent hefyd yn dda i les meddyliol ein gweithlu gan ei fod yn rhoi mwy o amser iddynt gyda ffrindiau a theulu yn ogystal â chaniatáu diwrnod ychwanegol iddynt drefnu eu bywydau.

“Rwy’n awyddus i glywed profiadau gwledydd eraill yn ystod y gynhadledd hon a byddaf yn adrodd yn ôl ar fy nghanfyddiadau.

“Yr wyf yn edrych ymlaen yn arbennig at glywed mwy am brofiadau Gwlad yr Iâ lle’r oedd cynllun peilot eang yn llwyddiant ysgubol.

“Mae Plaid Cymru eisoes wedi ymrwymo’n llwyr i dreialu wythnos pedwar diwrnod yng Nghymru ar ôl galw dadl yn y Senedd ar y mater yn y Senedd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut rydym yn bwrw ymlaen â’r mater hwn fel plaid yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf i roi bargen well o lawer i’n heconomi, ein hamgylchedd a’n gweithlu.”