Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac M&S am gydweithio ar ymgyrch bwyta’n iach, er mwyn annog teuluoedd i wneud dewisiadau gwell ac iachach.

Bydd y cytundeb yn para sawl blwyddyn, wrth i’r ddau sefydliad hybu arferion bwyta da pêl-droedwyr Cymru, gan ddangos sut mae maeth yn effeithio ar eu perfformiadau, a hybu negeseuon bwyta’n iach i helpu plant mewn ffordd sy’n denu eu sylw mewn ffordd apelgar ac sy’n arwain at newid eu harferion.

Daw’r bartneriaeth ar adeg pan fo 46% o bobol Cymru’n poeni am iechyd y teulu a 33% yn ymdrechu i sicrhau bod bwyta’n iach yn rhan o’u deiet.

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch mae Rob Page, rheolwr tîm dynion Cymru, a Gemma Grainger, rheolwr tîm cenedlaethol y merched.

“Mae cyfranogiad mewn pêl-droed yng Nghymru’n cynyddu bob blwyddyn, a hi yw’r gamp fwyaf poblogaidd ledled y genedl,” meddai Rob Page.

“Drwy ddefnyddio ein sêr Cymru i ysbrydoli teuluoedd a chenedlaethau’r dyfodol i fwyta’n iachach, rydym yn helpu i wella iechyd a maeth y genedl sy’n beth mor bwerus i ni fel tîm a sefydliad.”

Yn ôl Gemma Grainger, mae chwaraewyr Cymru’n rolau model addas.

“Rydym wedi gweld twf sylweddol yn ein torfeydd dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae’n braf gweld cynifer o deuluoedd yn bloeddio drosom ni yn yr eisteddleoedd,” meddai.

“Rydym yn gobeithio y byddan nhw tu ôl i ni yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd ar Fedi 6 yn ein gêm gymhwyso olaf ar gyfer Cwpan y Byd.”

‘Llawer mwy na nawdd’

“Mae ein gwaith gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru’n llawer mwy na nawdd, rydyn ni eisiau helpu i newid iechyd y genedl, a’r cam cyntaf yw cynyddu nifer y cynnyrch sydd â’r blodyn ‘Eat Well’, a’i gwneud hi’n haws i gwsmeriaid sylwi arnyn nhw,” meddai Allison Jenkins, rheolwr rhanbarthol M&S yn ne Cymru.

“Bydd cwsmeriaid sy’n siopa yng Nghymru’n gallu casglu cardiau ryseitiau Cymru arbennig yn y siop fel bod modd iddyn nhw ail-greu prydau eu hoff chwaraewyr gartref – boed hynny’n frecwast, cinio neu swper.

“Gall sêr y dyfodol ddarganfod, hyd yn oed, pa gynnyrch Eat Well mae Cymru’n eu bwyta yn ystod gwersylloedd hyfforddi.”