Mae Michael Hogan, bowliwr cyflym tîm criced Morgannwg, yn dweud bod y profiad o ennill yn Hove yn un newydd iddo fe, ar ôl i’w dîm guro Sussex o saith wiced yng ngêm ugain pelawd gynta’r Vitality Blast neithiwr (nos Iau, Mai 26).

Tair wiced sydd eu hangen arno fe erbyn hyn i gyrraedd 100 o wicedi ugain pelawd yn ei yrfa.

Sgoriodd Sussex 150 am chwech, gyda Hogan yn cipio tair wiced, cyn i Marnus Labuschagne a Sam Northeast adeiladu partneriaeth o 82 wrth gwrso.

Aeth Northeast, yn ei dymor cyntaf gyda’r sir, heibio 3,000 o rediadau ugain pelawd yn ystod ei fatiad wrth sgorio 63 heb fod allan, wrth i Forgannwg gyrraedd y nod gyda saith pelen yn weddill.

Hon oedd ail fuddugoliaeth Morgannwg erioed mewn gêm ugain pelawd oddi cartref yn Sussex.

Tarodd Mohammad Rizwan 81 heb fod allan, ond roedd yn ofer er iddo fe daro tri chwech a chwe phedwar oddi ar ei 60 o belenni.

“Rydyn ni wedi wynebu ambell golled drom yma,” meddai Michael Hogan.

“Alla i ddim cofio ennill yn Hove o’r blaen, felly roedd hi’n braf cael dechrau da.

“Doedd dim llawer yn y llain, felly fe wnes i geisio bwrw’r wicedi ac yn y pen draw, fe wnes i gymysgu fy nghyflymdra a chael iorcers i mewn yn y diwedd, wedyn fe wnaethon ni gwrso’n dda iawn.

“Dangosodd Sam Northeast ei fod e’n chwaraewr o safon, ac fe wnaeth Kiran Carlson ein cael ni ar y droed flaen ar ôl i ni golli Marnus Labuschagne.

“Dyma’r gêm gyntaf o dair mewn pedwar diwrnod ac mae hwn yn ddechrau da i ni.”