Tair gêm oddi cartref yn ardal Llundain sydd gan dîm criced Morgannwg ar ddechrau cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, sy’n dechrau heno (nos Iau, Mai 26) gyda gêm yn erbyn Sussex yn Hove.

Ar ôl heno, byddan nhw’n teithio i’r Oval i herio Surrey nos fory (nos Wener, Mai 27) ac yna i Radlett i wynebu Middlesex ddydd Sul (Mai 29).

Ond maen nhw wedi cael hwb gyda’r newyddion bod y capten David Lloyd wedi gwella o haint ar ei frest, ac mae’r bowliwr cyflym James Harris wedi’i gynnwys wrth iddo geisio ennill ei le yn y tîm undydd am y tro cyntaf ers 2013, yn dilyn cyfnod gyda Middlesex a Chaint.

Dydy’r bowliwr cyflym Michael Hogan ddim chwaith wedi chwarae mewn gêm ugain pelawd i’r sir ers 2019, ond mae ganddo fe 94 o wicedi mewn gemau ugain pelawd i Forgannwg, ac fe fyddai un wiced arall yn ei osod ar ei ben ei hun ar frig y rhestr wicedi i’r sir yn hanes gemau ugain pelawd.

Mae dau arall, Sam Northeast a Joe Cooke, yn gobeithio chwarae yn eu gemau ugain pelawd cyntaf i’r sir, ac fe fydd yn rhaid i Forgannwg ddewis dau o blith eu tri chwaraewr tramor – Marnus Labuschagne, Michael Neser a Colin Ingram.

Ond dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten na Ruaidhri Smith ddim ar gael, wrth iddyn nhw barhau i wella o’u hanafiadau.

Bydd yr Iseldirwr van der Gugten allan am hyd at ddeg wythnos ar ôl rhwygo llinyn y gâr, tra bod yr Albanwr Smith allan am hyd at chwe wythnos ag anaf i’w ochr.

Dydy’r batiwr Eddie Byrom ddim ar gael chwaith oherwydd anaf i’w glin.

Digon o reswm i fod yn obeithiol

Er nad yw Morgannwg wedi ennill yn Sussex nac wedi cyrraedd y rowndiau olaf ers 2017, mae digon o reswm i fod yn obeithiol yn y gystadleuaeth eleni, yn ôl David Lloyd.

“Mae’r hwyliau yn y garfan wrth fynd i mewn i’r Vitality Blast yn dda iawn,” meddai.

“Rydan ni wedi chwarae criced da dros y chwe wythnos dwytha’, roedd hi’n amser siomedig i fyny yn Durham, oedd yn drueni.

“Ond mae’r ffordd rydan ni wedi dangos beth fedrwn ni ei wneud hyd yn hyn wedi plesio’n fawr.

“Mae’n fformat gwahanol rŵan, mae’r hogiau’n edrych ymlaen yn fawr ati.

“Mae yna gyfnod cyffrous o’n blaenau a gobeithio fedrwn ni wella ar y tymhorau dwytha’ yn y T20.”

Gemau’r gorffennol

Colli o 33 rhediad wnaeth Morgannwg yn erbyn Sussex yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, ac maen nhw’n ceisio’u buddugoliaeth gyntaf yn Sussex ers 2017.

Dyna’u hunig fuddugoliaeth yn Sussex, ar ôl i Colin Ingram daro canred oddi ar 46 o belenni, y canred cyflymaf erioed i’r sir mewn gemau ugain pelawd, a hwnnw’n dod fel rhan o bartneriaeth o 130 gyda Jacques Rudolph, sydd hefyd yn dod o Dde Affrica, gyda Morgannwg yn ennill y gêm honno o 18 rhediad.

Colli o bum wiced wnaethon nhw yn 2014, o wyth wiced yn 2015, ennill o 18 rhediad yn 2017, colli o 98 rhediad yn 2018, ac o naw wiced yn 2019 gyda’r gemau yn 2016 a 2021 heb eu gorffen oherwydd y tywydd.

Byddan nhw dipyn yn mwy gobeithiol wrth fynd i’r Oval, gyda chwe buddugoliaeth mewn wyth gêm yng nghartref Surrey, er mai’r Saeson sydd wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw.

Mae Morgannwg wedi enwi carfan o 14 chwaraewr ar gyfer y tair gêm.

Carfan Sussex: T Alsop, W Beer, R Bopara (capten), O Carter, H Crocombe, S Finn, G Garton, A Lenham, T Mills, J Philippe, D Rawlins, Mohammad Rizwan, H Ward, L Wright

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, J Cooke, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Labuschagne, M Neser, S Northeast, A Salter, P Sisodiya, J Weighell

Dadansoddiad

Er bod Morgannwg yn dweud ers tro mai tîm undydd ydyn nhw – ac wedi profi hynny gan ennill cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London y llynedd – dydyn nhw’n sicr ddim wedi tanio mewn gemau ugain pelawd dros y tymhorau diwethaf.

Tair buddugoliaeth gawson nhw y tymor diwethaf, a’r tair yn dod gartref. A does ganddyn nhw ddim record dda yn Sussex chwaith, gyda’u hunig fuddugoliaeth yn y sir yn dod yn Arundel yn 2017, y tro diwethaf iddyn nhw gyrraedd y rowndiau olaf. Colin Ingram oedd y seren bryd hynny, gan daro’r canred cyflymaf erioed i’r sir mewn gemau ugain pelawd ac mae e’n sicr o fod yn ei chanol hi unwaith eto eleni wrth iddo fe ddychwelyd mewn gemau pedwar diwrnod hefyd.

Un fydd ar gael eleni yw Marnus Labuschagne. Roedd e’n absennol o’r gêm y llynedd ar ôl dod i gysylltiad â Nick Selman oedd wedi profi’n bositif am Covid-19 – ac yn brif sgoriwr y gystadleuaeth ar y pryd, gan fynd yn ei flaen i sgorio 390 o rediadau ar gyfartaledd o bron i 56, gan gynnwys 93 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw. A sôn am Covid-19, bydd hi’n braf gweld y torfeydd yn dychwelyd eleni, gyda’r gystadleuaeth yn 20 oed yn 2022 ac yn un sy’n cynnal coffrau’r siroedd bob tymor.

Mae cryn dipyn o sôn yng Nghymru ar hyn o bryd am y gêm ar lawr gwlad a cheisio cyrraedd cymunedau lleiafrifol, felly braf gweld y gystadleuaeth eleni’n cael ei lansio yn Grangetown yng Nghaerdydd, wrth i Labuschagne daro ambell i belen gyda phlant o’r gymuned leol. Dyna’r math o ddigwyddiad allai godi poblogrwydd y Vitality Blast ymhellach – pwy sydd angen y Can Pelen, dywedwch (dadl arall yw honno!)…