Pêl-droed yw prif gamp Cymru, yn ôl ymchwil annibynnol gan gwmni Nielsen, sy’n cynnal ymchwil i gynulleidfaoedd ledled y byd.

Yn ôl y cwmni, mae pêl-droed ar i fyny yng Nghymru ers i’r tîm cenedlaethol gyrraedd yr Ewros yn 2016 a hi yw’r gamp fwyaf poblogaidd i’w chwarae ymhlith plant ac oedolion erbyn hyn.

Cafodd yr ymchwil ei chynnal yng Nghymru ar ran UEFA fis Ebrill eleni, ac mae’n cael ei chynnal bob dwy flynedd ymhlith pobol dros 18 oed, gan dynnu ar ddata gan bobol o oedrannau, rhywedd ac ardaloedd gwahanol.

Mae’r ymchwil hefyd yn nodi cynnydd yn niddordeb y Cymry mewn pêl-droed i ferched, a bod y diddordeb hwnnw wedi dyblu ers 2016.

Mae’r ymchwil hefyd yn cymharu perfformiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r gamp yn gyffredinol gyda chyrff a’r gamp mewn gwledydd eraill, ac mae Cymru’n perfformio’n well na llawer iawn o wledydd eraill.

Mae’r ymchwil hefyd yn nodi meysydd lle mae diddordeb cynulleidfaoedd wedi gostwng, fel bod modd mynd i’r afael â nhw.

‘Adroddiad positif iawn ar y cyfan’

“Ar y cyfan, mae’r adroddiad hwn yn bositif iawn, ac rwy’n eithriadol o falch o weld mai’r gêm a gawsom i’w rhedeg yw’r prif gamp o ran diddordeb yn y wlad,” meddai Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae’r adroddiad annibynnol hwn yn dyst i waith caled gweithwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cymdeithasau Rhanbarthol, Cynghreiriau, Clybiau a gwirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad sy’n codi ymwybyddiaeth, diddordeb a chanfyddiadau yn ein gêm ryfeddol.

“Ar y cyd â’n nodau strategol ar gyfer pêl-droed Cymru, mae’r ymchwil yma’n rhoi mewnwelediad i ni o ran lle y gallwn ni barhau i dyfu a pha feysydd mae angen i ni ganolbwyntio arnyn nhw i’w gwella.”