Wrth i’r bowliwr cyflym Michael Hogan gyrraedd y garreg filltir o 100 o wicedi mewn gemau ugain pelawd, collodd Morgannwg o bedair wiced yn erbyn Surrey ar yr Oval yn y Vitality Blast.
Tarodd Ollie Pope 62 oddi ar 46 o belenni i gipio’r fuddugoliaeth i’r Saeson gyda phelen yn unig yn weddill o’r ornest.
Adeiladodd Pope a Sam Curran bartneriaeth bedwaredd wiced o 62, wrth i Surrey gwrso’r nod a gorffen ar 174 am chwech ar ôl i Forgannwg sgorio 173 am bump.
Cyrhaeddodd Pope ei hanner canred gyda chyfres o ergydion i’r ffin wrth i Surrey glosio at y fuddugoliaeth, ond cipiodd Hogan ddwy wiced tua’r diwedd gan sicrhau bod y gêm yn y fantol hyd y diwedd.
Gorffennodd Hogan gyda phum wiced am 18 yn y pen draw, a’i ffigurau’n record yn erbyn Surrey mewn gemau ugain pelawd.
Yn gynharach yn yr ornest, gosododd Sam Northeast seiliau cadarn i Forgannwg gyda 65 oddi ar 51 o belenni, gan gynnwys dwy ergyd chwech yn olynol oddi ar fowlio Reece Topley wrth i’r bowliwr ildio 24 rhediad yn y belawd olaf ond un.
Daeth cyfraniad allweddol hefyd gan Chris Cooke, gyda 46 oddi ar 27 o belenni, wrth iddo fe a Northeast gyfuno i adeiladu partneriaeth bedwaredd wiced o 63.
“Brwydrodd y bois yn dda tua’r diwedd, ond doedden ni ddim cweit wedi cyrraedd y safon heno, a dw i’n meddwl mai dyna oedd wedi costio’n ddrud i ni ar y cyfan,” meddai Michael Hogan.
“Yn amlwg, roedd hi’n destun pleser bowlio’r fath belawd olaf a gorffen gyda phum wiced, ond dim ond ffigurau sengl [wyth rhediad] oedd eu hangen arnyn nhw yn y belawd olaf honno, a’r dyddiau, gêm y batwyr yw honno.”