Mae tîm pêl-droed Wrecsam un fuddugoliaeth i ffwrdd o rownd derfynol gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol, wrth iddyn nhw groesawu Grimsby ar gyfer y gêm olaf ar y Cae Ras y tymor hwn heddiw (dydd Sadwrn, Mai 28).

Bydd tîm Phil Parkinson yn awyddus i daro’n ôl ar ôl y siom o golli yn ffeinal Tlws FA Lloegr yn Wembley yr wythnos ddiwethaf, ac yn gwybod y byddai un fuddugoliaeth ar ôl heddiw’n ddigon i sicrhau eu statws fel tîm yn y gynghrair unwaith eto ar ôl absenoldeb o 14 mlynedd.

Fis Ionawr ddaeth Grimsby i’r Cae Ras ddiwethaf, ac fe sgoriodd Ollie Palmer yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd.

Dim ond tair gôl sydd wedi cael eu sgorio yn y pum gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm yng ngogledd Cymru, ac mae’r naill dîm neu’r llall wedi cadw llechen lân mewn 12 allan o’r 15 gêm ddiwethaf rhyngddyn nhw.

Daeth buddugoliaeth fwyaf Wrecsam dros Grimsby yn 1955, pan sgoriodd Eric Betts ddwy gôl, ac roedd un yr un i Ron Hewitt, Arthur Gwatkin a Billy Green.

Wrecsam a’r gemau ail gyfle

Bydd ennill dyrchafiad drwy’r gemau ail gyfle’n brofiad newydd sbon i Wrecsam.

Maen nhw wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle bedair gwaith.

1989 oedd y tro cyntaf, pan heriodd tîm Dixie McNeil Scunthorpe, ac ennill o 5-1 dros y ddau gymal cyn colli yn erbyn Leyton Orient yn y rownd derfynol.

Yn 2011, sgoriodd Wrecsam 98 o bwyntiau yn y gynghrair, a nhw oedd y ffefrynnau yn erbyn Luton, oedd wedi ennill o 2-1 cyn i’r Saeson ennill unwaith eto yn 2012.

Casnewydd oedd eu gwrthwynebwyr yn 2013, a hynny ar ôl curo Kidderminster yn y rownd gyn-derfynol, ond colli o 2-0 oedd hanes Wrecsam diolch i goliau Christian Jolley ar ôl 86 munud ac Aaron O’Connor bedair munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau.

Ond sut hwyl gaiff Wrecsam eleni? Mae’r gêm yn fyw ar BT Sport, ac mae sylwebaeth yn Gymraeg ar Radio Cymru, gyda’r gic gyntaf am 12.30yp.