Fydd dim diweddglo Hollywoodaidd i dîm pêl-droed Wrecsam a’u perchnogion Rob Reynolds a Rob McElhenney y tymor hwn, ar ôl iddyn nhw golli gêm gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol yn erbyn Grimsby ar y Cae Ras o 5-4.

Roedd yr actorion yn y gogledd i wylio’r gêm fawr, wrth i dîm Phil Parkinson geisio cyrraedd y rownd derfynol am gyfle i ddychwelyd i’r Gynghrair Bêl-droed ar ôl absenoldeb o 14 mlynedd.

Ond doedd hi ddim am fod eleni.

Cafodd Wrecsam gic ddadleuol o’r smotyn i’w rhoi nhw ar y blaen ar ôl 13 munud, gyda Paul Mullin yn rhwydo, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl ddwy funud yn ddiweddarach drwy John McAtee.

Yn gyfartal 1-1 ar yr egwyl, ddwy funud yn unig gymerodd hi i Grimsby fynd ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner, gyda Luke Waterfall, gynt o Wrecsam, yn sgorio’i gyntaf o ddwy gôl.

Sgoriodd Ben Tozer a Paul Mulin, gyda’i ail, i’w gwneud hi’n 3-2 i Wrecsam, cyn i Ryan Taylor a Mani Dieseruvwe roi Grimsby yn ôl ar y blaen.

Roedd Wrecsam yn gyfartal unwaith eto drwy Jordan Davies ar ôl 80 munud, a bu’n rhaid chwarae hanner awr ychwanegol i geisio canlyniad.

Roedd hi’n edrych yn debygol y byddai’n rhaid penderfynu’r canlyniad o’r smotyn, cyn i Waterfall dorri calonnau Wrecsam ym munudau ola’r ornest.