Mae 53 o ardaloedd arfordir wedi derbyn cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Arfordir Cymru eleni.
Mae 25 o ardaloedd wedi derbyn Baner Las – 22 o draethau a thri marina – gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae’r Faner Las yn eco-label byd-enwog sy’n eiddo i’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol, ac wedi bod yn cael ei rhoi i draethau ers dros 30 mlynedd bellach.
Fel rhan o’r gwobrau, mae 23 o draethau wedi cyflawni’r Wobr Glan Môr am safon ansawdd eu dŵr a’u cyfleusterau.
Ynghyd â hynny, mae 13 o draethau eraill wedi ennill Gwobr Arfordir Glas, sy’n cydnabod y ‘trysorau cudd’ ar yr arfordir.
‘Diogelu’r arfordir’
Dywed Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, fod Cymru’n adnabyddus ar draws y byd am ei “harfordiroedd anhygoel”, ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn golygu eu bod nhw’n parhau ar y map i fwy o bobol eu canfod.
“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn arbennig, rydym i gyd wedi dod i sylweddoli pwysigrwydd mynd allan i’r awyr agored a mwynhau’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig,” meddai.
“Mae ein traethau a’n marinas yn cynnig rhai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop. Maent yno i ni eu mwynhau ond hefyd i ni eu diogelu.
“Wrth wynebu’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae ar ein hysgwyddau ni bellach i ddiogelu arfordir trawiadol Cymru, gan sicrhau ein bod yn gadael dim byd ond olion traed er mwyn i faneri glas allu parhau i hedfan am genedlaethau i ddod.”
‘Trysori ein traethau’
Rydym ni’n lwcus bod gennym ni rai o draethau a marinas gorau’r byd ar ein stepen drws, yn ôl Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.
“Mae’r llwyddiant yn dyst i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ddiogelu a gwella ein traethau a chadw ein harfordir yn lân ac yn ddiogel,” meddai.
“Ein gobaith yw y bydd pawb sy’n ymweld â’n harfordir trawiadol yn mwynhau ac yn trysori ein traethau yn gyfrifol. Cofiwch greu atgofion, nid llanast ac ewch â’ch sbwriel gartref gyda chi.”
Y Faner Las
Bae Rest, Pen-y-bont ar Ogwr
Bae Trecco, Pen-y-bont ar Ogwr
Marina Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr
Cefn Sidan, Sir Gaerfyrddin
De Aberystwyth, Ceredigion
Borth, Ceredigion
Llangrannog, Ceredigion
Tresaith, Ceredigion
Prestatyn, Sir Ddinbych
Amroth, Sir Benfro
Niwgwl, Sir Benfro
Llanussyllt, Sir Benfro
Dale, Sir Benfro
Porthmawr, Sir Benfro
Coppet Hall, Sir Benfro
De Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Castell Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Traeth Poppit, Sir Benfro
Gogledd Aberllydan, Sir Benfro
Bae Cas-wellt, Abertawe
Bae Langland, Abertawe
Porth Einon, Abertawe
Marina Abertawe, Abertawe
Marina Penarth, Bro Morgannwg
Southerndown, Bro Morgannwg
Gwobr Glan Môr
Llanddona, Ynys Môn
Cilborth, Ceredigion
Llanrhystud, Ceredigion
Mwnt, Ceredigion
Gogledd Aberystwyth, Ceredigion
Aberporth, Ceredigion
Penbryn, Ceredigion
Clarach, Ceredigion
Traeth y Dolau, Ceredigion
Llangrannog, Ceredigion
Harbwr Ceinewydd, Ceredigion
Tresaith, Ceredigion
Bae Cinmel, Conwy
Traeth y Gogledd Llandudno, Conwy
Pensarn Abergele, Conwy
Canol Rhyl, Sir Ddinbych
Traeth y Promenâd, Cricieth
Aberafan, Castell-nedd Port Talbot
Cold Kap, y Barri, Bro Morgannwg
Bae Jackson, Bro Morgannwg
Bae Whitmore, Bro Morgannwg
Gwobr Arfordir Glas
Borth Arian, Rhoscolyn, Ynys Môn
Cilborth, Ceredigion
Llanrhystud, Ceredigion
Mwnt, Ceredigion
Penbryn, Ceredigion
Bae Bracelet, Abertawe
Abereiddi, Sir Benfro
Freshwater East, Sir Benfro
Maenorbŷr, Sir Benfro
Penalun, Sir Benfro
Caerfai, Sir Benfro
Bae Gorllewin Angle, Sir Benfro
Druidston, Sir Benfro