Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £26m o gyllid i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, i hybu bioamrywiaeth ac i wella mynediad i gefn gwlad i bawb gael mwynhau ei harddwch.

Daeth y cyhoeddiad gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae lle i gredu mai hwn yw’r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig, gyda 74 o bwyntiau gwefru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy, a chefn gwlad yn fwy gwydn yn dilyn twf gwyliau’n nes at adref yn ystod y pandemig.

Bydd yr arian yn help i:

  • wella cyfleusterau trafnidiaeth a thwristiaeth, yn enwedigmewnmannau poblogaidd i dwristiaid
  • gwella rhwydweithiau llwybrau troed gan ganolbwyntio’n benodol ar fynediad i bobl anabl
  • ariannu prosiectau a fydd yn gwella Parciau Cenedlaethol Cymru fel y gallant storio carbon yn well a darparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt

“Delio â’r pwysau” yng nghefn gwlad

“Wrth i fwy o bobol ddarganfod cefn gwlad Cymru, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ddelio â’r pwysau,” meddai Julie James.

“Ein gweledigaeth yw cefn gwlad lle gall cymunedau barhau i weithio a ffynnu, lle gall ymwelwyr fwynhau tra’n gadael ôl troed yn unig ar ôl, a lle gall planhigion a bywyd gwyllt ffynnu unwaith eto.

“Mae natur yn rhoi’r offer i ni fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn ein galluogi i deimlo’n well yn ein hunain pan fyddwn yn cysylltu ag ef – mae’n iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ofalu amdano.”

Mae Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cwmpasu 25% o arwynebedd Cymru, ac yn chwarae rhan fawr wrth alluogi pobol o bob cefndir i gael mynediad i gefn gwlad yn ddiogel.

Yn gartref i fawndiroedd, tir fferm a rhywogaethau sydd mewn perygl, mae rheoli cefn gwlad yn effeithiol yn amhrisiadwy wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Yn ystod ei hymweliad â gorllewin Cymru, fe wnaeth Julie James gyfarfod â chynllun mynediad i bobol ag anableddau ar draeth Saundersfoot, sy’n darparu cadeiriau olwyn wedi’u cynllunio’n arbennig fel y gall defnyddwyr lywio’r tir tywod yn rhwydd.

Gwnaeth hi gyfarfod hefyd â grŵp cerdded lleol sy’n dweud bod eu cyfarfodydd cymdeithasol i grwydro eu hardal wedi gwella eu hiechyd meddwl.

‘Buddsoddi mewn mynediad i’r awyr agored’

“Mae buddsoddi mewn mynediad i’r awyr agored yn un o brif bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer y manteision niferus y mae’n eu darparu,” meddai Julie James.

“Y tu hwnt i gyfleoedd economaidd twristiaeth, profwyd bod cysylltu â natur yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol.

“Mae prosiectau arloesol fel Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i droedio ei harfordir 1400km o hyd, tra bod cynlluniau ar y gweill i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru sy’n ymestyn o’r gogledd i’r de o’r wlad.”

Un sy’n croesawu’r cyhoeddiad yw Tegryn Jones, Prif Swyddog Gweithredol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

“Mae’r cyllid hwn wedi ein helpu i sicrhau bod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gael ar draws ein Parc Cenedlaethol, gan ein symud ymhellach tuag at ein nod o ddod yn Barc Cenedlaethol sero-net,” meddai.

“Yn ei dro, bydd hyn yn galluogi mwy o drigolion, ymwelwyr a busnesau i leihau eu hôl troed carbon a chefnogi ymgyrch barhaus yr Awdurdod, sy’n annog pobol i ‘droedio’n ysgafn’ yn ystod eu taith i Arfordir Sir Benfro.”