Mae mudiad Conradh na Gaeilge wedi rhoi croeso gofalus i’r ddeddfwriaeth newydd ar yr iaith Wyddeleg fydd yn cael ei chyflwyno yn San Steffan ddydd Mercher (Mai 25).

Fe ddaw yn sgil y cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd, gan greu swydd Comisiynydd Iaith Wyddeleg i ddatblygu safonau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ac i ddiddymu Deddf Gyfiawnder 1737 sy’n gwahardd yr iaith Wyddeleg mewn llysoedd barn.

“Mae’r gymuned Wyddeleg wedi bod yn brwydro am yr hawliau hyn ers degawdau ac yn yr ystyr hynny, mae gweld yr iaith Wyddeleg yn cael statws swyddogol yma am y tro cyntaf wir yn hanesyddol,” meddai Paula Melvin, Llywydd Conradh na Gaeilge.

“Rydym am dalu teyrnged i’r holl ymgyrchwyr ac arloeswyr cymunedol hynny sydd wedi bod yn eirioli dros hawliau iaith dros y blynyddoedd. Mae’r diwrnod hwn yn eiddo iddyn nhw.

“Ond gadewch i ni fod yn glir, megis dechrau’r daith ddeddfwriaethol yw hyn ar gyfer y mesur hwn.

“Mae profiad poenus gyda Llywodraeth Prydain wedi ein dysgu ni i beidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol.

“Hyd nes i ni weld y Bil hwn yn cael ei weithredu’n llawn a’i gyflwyno’n ymarferol, byddwn yn parhau i wthio’r ymgyrch yn ei blaen.”

‘Bydd gennym ni Ddeddf Iaith Wyddeleg’

“Ddydd Sadwrn, mynychodd bron i 20,000 o bobol y rali iaith Wyddeleg fwyaf yn ein hanes,” meddai Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eiriolaeth gyda Conradh na Gaeilge.

“Dywedon ni wrthyn nhw bryd hynny y byddem yn ennill ein hymgyrch, ac rydym bron â bod yno.

“Bydd gennym ni Ddeddf Iaith Wyddeleg.

“Bydd y ddeddfwriaeth honno, fodd bynnag, yn brin o’r ymrwymiadau a gafodd eu rhoi i ni yn St Andrew’s, yn enwedig o’u profi yn erbyn y model Cymreig.

“Ond mae’n dal i fod yn ddatblygiad hanesyddol yn ein hymgyrch tros hawliau iaith, ac rydym yn ei groesawu fel arhosfan arwyddocaol ar ein taith tuag at gydraddoldeb yma.

“Mae Llywodraeth Prydain hithau’n gwybod fod tipyn o’r ddeddfwriaeth hon yn ddibynnol ar ewyllys wleidyddol i ganiatáu iddi weithredu’n effeithiol.

“O ystyried bod y DUP wedi cefnu ar eu hymrwymiadau Degawd Newydd Dull Newydd i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, ynghyd â’r ffaith nad oes gennym ni Brif Weinidog na Dirprwy Brif Weinidog i fynd â’r maen i’r wal a chyflwyno gweithrediadau’r ddeddfwriaeth, rhaid i Lywodraeth Prydain weithredu ar unwaith i benodi Comisiynydd sy’n gallu datblygu’r safonau arfer dda.

“Dyna’r prawf papur litmws nawr i Lywodraeth Prydain.

“Mae cael deddfwriaeth yn un peth, ond gweithredu arni yw’r prawf go iawn.

“Heb y weithred honno ar unwaith, fydd y ddeddfwriaeth hon ddim yn werth y papur mae hi wedi’i hysgrifennu arno.

“Mae adfywiad yr iaith Wyddeleg sydd wedi bod yn ffynnu yma ers nifer o ddegawdau wedi dod o’r gwaelod i fyny, yn fudiad sydd wedi cael ei ddathlu a’i gydnabod ledled y byd; gyda chymunedau lleol yn dewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y Wyddeleg ac yn gwireddu’r weledigaeth honno drwy sefydlu eu hysgolion eu hunain a chyflwyno prosiectau a gwasanaethau Gwyddeleg trawsnewidiol.

“Nawr yw’r amser i’r wladwriaeth chwarae ei rhan.”

Rali yn Belfast

Troi Bheul Feirste yn goch tros Ddeddf Iaith Wyddeleg newydd

Roedd miloedd o bobol ar strydoedd prifddinas Gogledd Iwerddon ddoe (dydd Sadwrn, Mai 21)
Neuadd y Ddinas Belffast

Disgwyl i filoedd o bobol orymdeithio i fynnu Deddf Iaith Wyddeleg: “Mae’n bryd gweithredu”

Mae disgwyl y digwyddiad hawliau iaith mwyaf ers cenhedlaeth ar strydoedd prifddinas Gogledd Iwerddon

Y gymuned Wyddeleg yn “sinigaidd” yn sgil y cyfeiriad at ddeddf iaith yn Araith y Frenhines

“Tan y bydd dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth… nid oes gennym ni reswm i ymddiried yn Llywodraeth Prydain o ran hawliau iaith”
Papur pleidleisio'n cael ei roi yn y blwch

Cyhuddo’r pleidiau unoliaethol o ddiffyg parch at yr iaith Wyddeleg

Dydy’r DUP, UUP na TUV ddim wedi ymrwymo i chwe phrif alwad mudiadau iaith