Mae mudiad sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi talu Prifysgol Birmingham am ymchwil.

Cafodd yr adroddiad ‘Forced migration and sexual and gender-based violence: findings from the SEREDA project in Wales’ ei gyhoeddi gan y brifysgol gyda chyllid gan Hwb Profiadau Niwediol Mewn Plentyndod (ACE) Cymru.

Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ganfyddiadau astudiaeth ryngwladol i geisio deall trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd (SGBV) ymysg ffoaduriaid, a oedd yn cael ei harwain yn y Deyrnas Unedig gan Brifysgol Birmingham.

Yn ôl yr adroddiad, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i gynnig cefnogaeth ychwanegol i ffoaduriaid sydd wedi goroesi trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd ac mae’n argymell camau y gall Cymru eu cymryd er mwyn dod yn Genedl Noddfa.

Drwy gyfweliadau â goroeswyr a darparwyr cymorth yng Nghymru, daeth yr ymchwilwyr i’r canfyddiad fod eu profiadau gyda SGBV yn amrywio, a bod goroeswyr yn aml yn parhau i fod mewn perygl o gael eu camdrin neu eu hecsbloetio ar ôl cyrraedd Cymru.

Mae’r adroddiad yn dweud y gallai prosesau lloches hir a chymhleth a thai anniogel gynyddu’r risg o SGBV.

Yn aml, mae goroeswyr yn cael profiadau gwael gyda’r awdurdodau, sy’n arwain at ddiffyg hyder, a diffyg cefnogaeth i oroeswyr i’w helpu nhw i ddeall eu hawliau a’r gyfraith.

Mae’r adroddiad yn pwysleisio mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am bolisi mewnfudo, ond bod natur ddatganoledig iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai yn golygu bod gan Gymru gyfle unigryw i ddatblygu ac adeiladu ar waith gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod goroeswyr a dioddefwyr yn cael cefnogaeth briodol, waeth beth yw eu statws mewnfudo.

‘Hawl i ddiogelwch’

Dywed Jo Hopkins, cyfarwyddwr Hwb ACE Cymru, fod gwrando ar oroeswyr ac archwilio cyfleoedd i gydnabod pryderon yn “ffocws allweddol” iddyn nhw.

“Bydd hyn yn cefnogi ffordd o fynd i’r afael ag ACEs a thrawma dan arweiniad y gymuned, sy’n gynaliadwy ac sy’n gweithio i bobol sydd angen mynediad at wasanaethau.

“Mae gan bobol sy’n cael eu gorfodi i fudo yr hawl i ddiogelwch, gwarchodaeth a chymorth.

“Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn ein helpu i ddeall profiadau mewnfudwyr a’u teuluoedd sy’n ddioddefwyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, a sicrhau bod Cymru’n gweithio gyda’i gilydd i wella’r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.”

Mwy o gyllid

“Tra bod profiadau ffoaduriaid gyda SGBV yn gymhleth ac mae’r system loches bresennol yn gwaethygu’r trawma, mae Cymru, gyda’i hagwedd unedig tuag at weithio, mewn safle da i gynnig cymorth,” meddai’r Athro Jenny Phillimore o Brifysgol Birmingham, sy’n brif awdur yr adroddiad.

“Mae angen cyllid ychwanegol i gefnogi darpariaeth gwasanaethau ynghyd ag ariannu hyfforddiant er mwyn codi ymwybyddiaeth am anghenion arbennig goroeswyr sy’n ffoaduriaid.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Hwb ACE Cymru.