Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn galw heddiw (dydd Mawrth, Mai 24) am ymchwiliad i hiliaeth mewn ysgolion.

Daw ei alwadau yn dilyn y digwyddiad mewn ysgol ym Mlaenau Gwent, pan gollodd bachgen 11 oed ei fys yn dilyn adroddiadau o hiliaeth a bwlio corfforol.

Gwnaeth yr alwad yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog, wrth iddo ddweud y dylai Raheem Bailey “fod wedi teimlo’n ddiogel yn ei ysgol ei hun”.

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad oes ganddo “ddiddordeb” mewn “ymchwiliad arall eto”.

Daw’r alwad bron i ddwy flynedd o’r diwrnod y galwodd Plaid Cymru ar Lywodraeth Cymru i “ymrwymo i ymchwiliad eang i wreiddiau a meddyginiaethau hiliaeth strwythurol ac anfantais hiliol yma yng Nghymru” yn dilyn llofruddiaeth George Floyd.

Wrth ymateb i alwad y Blaid ym mis Mehefin 2020, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn un o’i “uchelgeisiau” i allu dod â’r gwaith hwnnw yn ôl fel un o’i flaenoriaethau.

“Bu’n rhaid i Raheem Bailey, bachgen 11 oed a ddylai fod wedi teimlo’n ddiogel yn ei ysgol ei hun gael torri ei fys i ffwrdd yn dilyn digwyddiad o fwlio,” meddai Adam Price.

“Er bod achos Raheem wedi, yn naturiol, ein syfrdanu, nid yw ei brofiad yn unigryw o bell ffordd yng Nghymru. Gwyddom eisoes o waith Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fod chwech o bob deg disgybl yn dweud eu bod nhw, neu rywun maen nhw’n ei adnabod, wedi bod yn darged hiliaeth.

“Dyna pam rydyn ni’n galw am ymchwiliad i hiliaeth yn ysgolion Cymru, fel mae’r adroddiad yn ei awgrymu. Dylai’r ymchwiliad hwn adolygu hyfforddiant gwrth-hiliaeth ac adnoddau ar gyfer addysgwyr, casglu data, polisïau bwlio a rôl Estyn mewn monitro.”