Mae angen mwy o addysg ar bobol i ddeall pwysigrwydd cadw cŵn ar dennyn o gwmpas da byw, yn ôl ffarmwr sydd wedi dioddef ymosodiadau angheuol ar ei ddefaid yn ddiweddar.

Mae’n bwysig bod perchnogion cŵn yn gwybod lle mae eu ci drwy’r amser, meddai Wil Williams, sy’n ffermio yn Aberdaron.

Yn sgil yr ymosodiadau, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymuno â Heddlu’r Gogledd i atgoffa aelodau o’r cyhoedd i gadw eu cŵn ar dennyn.

Bob blwyddyn, mae’r heddlu’n gweld dros 300 o ymosodiadau ar anifeiliaid yng Nghymru.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi gofyn droeon am bwerau cryfach i’w defnyddio gan yr heddlu yn erbyn perchnogion cŵn “anghyfrifol”, a chosbau mwy llym ar gyfer troseddwyr.

Ynghyd â hynny, maen nhw’n galw am ei gwneud hi’n orfodol, fel rhan o’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) i bob ci gael ei gadw ar dennyn pan fyddan nhw’n agos at dda byw.

Mae’n amlwg bod angen andros fwy o addysg ar bobol cyn bod perchnogion cŵn yn deall bod angen cadw eu cŵn ar dennyn bob tro o gwmpas da byw, yn ogystal â phwysleisio’r pwysigrwydd o wybod lle mae eich ci chi ar bob adeg,” meddai Wil Williams.

“Mae’n bwysig bod perchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn gwneud yn siŵr bod eu cŵn yn cael eu cadw mewn lle saff dros nos.”

Ychwanega Dafydd, ŵyr Wil Williams, ei bod hi’n “brifo pan fydd hyn yn digwydd”.

“Mae angen i bobol sylweddoli pa mor beryg ydy eu cŵn pan fyddant oddi ar eu tennyn,” meddai.

‘Wedi syrffedu’

Dr Hazel Wright

Mae ymosodiadau ar dda byw yn parhau er gwaethaf nifer o ymgyrchoedd gan y diwydiant sydd wedi’u hanelu at addysgu cerddwyr cŵn am y peryglon, yn ôl Dr Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae traweffaith ymosodiad ci ar deulu sy’n ffermio yn aruthrol,” meddai.

“Mae ein ffermwyr wedi syrffedu wrth wynebu’r olygfa drychinebus o weld eu hanifeiliaid yn gelain neu’n agos at angau yn y caeau yn dilyn ymosodiad gan gŵn ac mae’r gwewyr meddwl sy’n dilyn wrth ymdopi â’r gost a’r effaith emosiynol yn lladdfa, heb os nac oni bai.

“Mae modd atal ymosodiadau cŵn a’r gobaith yw daw newid yn y ddeddfwriaeth drwy’r Bil LLes Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) er mwyn diogelu’r da byw a’r cŵn.”

‘Cadwch eich cŵn ar dennyn’

Wrth siarad ag Undeb Amaethwyr Cymru, dywed y Cwnstabl Dewi Rhys Evans o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd ei bod hi’n rhwystredig gweld cynifer o ddigwyddiadau o boeni defaid yn ddiweddar.

“Unwaith eto mae’n ofyn arnom i ledaenu neges syml: cadwch eich cŵn ar dennyn ac o dan reolaeth,” meddai.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Phrifysgol John Moores, Lerpwl, ar astudiaeth sy’n gobeithio adnabod y dulliau gorau o gasglu DNA ci o anafiadau’r anifeiliaid.”