Mae teyrngedau wedi’u rhoi yn Senedd Cymru i Frenhines Lloegr ar drothwy ei Jiwbilî Platinwm i nodi ei 70 mlynedd ar yr orsedd.

Ymhlith y rhai fu’n talu teyrnged mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford, Andrew RT Davies ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, ac Adam Price ar ran Plaid Cymru.

Yn ôl Mark Drakeford, “mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn bresennol bob amser ym mywydau pobol Cymru a thu hwnt”.

“Rydyn ni’n meddwl am y ffordd y mae hi wedi ymrwymo i wneud ei dyletswydd,” meddai.

“Mae hi wedi bod mor ffyddlon i’r llw a gymerodd hi adeg ei choroni.

“Rydyn ni’n meddwl hefyd am yr urddas a’r hwyliau da y mae hi’n eu dangos bob amser wrth iddi wneud ei dyletswydd.

“Y llynedd, buasai wedi bod yn anodd i beidio â chael eich cyffwrdd wrth iddi alaru ar ôl marwolaeth ei gŵr.

“Ymunodd hi â miloedd ar filoedd o’i dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith a glynu at y cyfyngiadau yr oedd eu hangen i gadw pobol eraill yn ddiogel. Mae’r Frenhines wedi treulio cymaint o adegau preifat ei bywyd yn llygaid y cyhoedd, ond bydd y ddelwedd honno yn arbennig yn para am byth.

“Dros y blynyddoedd, mae’r Frenhines wedi ymweld â Chymru yn aml, o’i hymweliad cyntaf fel tywysoges ifanc a thaith y coroni ym 1953, i agor y Cynulliad Cenedlaethol a’r Senedd yn swyddogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Dros y 70 o flynyddoedd hynny, mae’r Frenhines wedi ymweld â phob cwr o Gymru.

“Ambell dro, roedd yn amser i ddathlu, dro arall roedd yn amser i ymuno mewn adegau dwys o alaru ac o gofio, er enghraifft pan oedd hi’n ymweld ag Aberfan.”

‘Ennyn hoffter pob sector yn y gymdeithas’

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae 70 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd “wedi ennyn hoffter pob sector yn y gymdeithas”.

“Rwy’n gwerthfawrogi, mewn democratiaeth, fod yna weriniaethwyr a brenhinwyr, ond all neb wir ddweud nad yw’r Frenhines wedi haeddu parch y wlad hon am ddyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus yn ystod ei theyrnasiad cyfan,” meddai Andrew RT Davies.

“Ac mae’n ffaith, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ei grybwyll, ei bod hi wedi cael 14 prif weinidog yn ei gwasanaethu, 13 Arlywydd yr Unol Daleithiau – dim ond un arlywydd sydd heb gyfarfod â hi, Lyndon Johnson – mae deg Arlywydd Ffrainc wedi cyfarfod â’i Mawrhydi y Frenhines.

“Mae hi wedi cwblhau 152 taith wladol.

“Fe fu pum Pab yn ystod ei hamser, ac yn yr amser dw i wedi bod yn y Senedd hon, mae hi wedi dod ar bedwar achlysur i agoriad swyddogol y Senedd.”

Ychwanegodd ei bod hi wedi cael “pleser gwirioneddol o gael mynd o amgylch yn cyfarfod, nid yn unig ag Aelodau ond grwpiau cymunedol oedd wedi ymgynnull i fyny’r grisiau” yn agoriad y Senedd bresennol, ac nad “esgus” oedd hi a’i bod hi’n “bleser” iddi gael bod yma.

“A dw i’n meddwl fod hynny’n rywbeth y gallwn ni fod yn eithriadol o falch ohono, fod gennym ni frenhines sy’n cydnabod fod y wlad yn newid a bod y frenhiniaeth yn newid gyda’r wlad er mwyn bod yn berthnasol.”

‘Y brenin neu frenhines sydd wedi ymweld â Chymru amlaf’

Yn ôl Adam Price, Elizabeth II yw’r “brenin neu frenhines sydd wedi ymweld â Chymru amlaf”, ac mai’r bwriad o’r dechrau oedd “ei chysylltu hi’n agosach gyda Chymru”.

Ymhlith yr ymdrechion a gafwyd i wneud hynny roedd ymgais i’w phenodi’n gwnstabl Castell Caernarfon ond cafodd hynny ei wrthod am resymau daearyddol, ei phenodi’n noddwr yr Urdd ond fod hynny’n rhy radical, ond ei bod hi serch hynny wedi’i derbyn yn aelod o’r Orsedd yn 20 oed gan yr Archdderwydd Crwys.

“Llywydd, mae gennym ni yn y Senedd reswm arbennig i gydnabod rôl y Frenhines ym mywyd Cymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

“Roedd ei hagoriad cyntaf o’n Senedd yn dilyn yr etholiadau cyntaf yn 1999 yn tanlinellu drwy ei phresenoldeb arwyddocâd y dechreuad newydd hwnnw yn ein taith ddemocrataidd genedlaethol – yn erbyn dymuniadau’r prif weinidog ar y pryd, fe ymddengys.

“Nawr, ar drothwy ymddangos yn genedl hunanlywodraeth lawn, mae Cymru wedi newid y tu hwnt i amgyffred o gymharu â’n hamgylchiadau yn 1952: gwlad heb brifddinas, heb sôn am Senedd.

“Yn rhan o’r Jiwbilî yma, felly, mae ein taith ninnau o Siambr Fach i Siambr fwy, oherwydd mae ein hanes ni – yn rhannol, o leiaf – yn rhan o’i hanes hithau hefyd.”

Ymateb

Wrth ymateb i’r ddadl yn y Senedd, mae Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn dweud mai’r “un hen” sylwadau oedd wedi’u rhoi yn ystod y ddadl.

“Felly parodd ’dadl’ Jiwbilî’r Senedd lai na hanner awr,” meddai ar Twitter.

“Ac o ddarllen y cyfraniadau, yr un hen [bethau a gafodd eu dweud]. Cadw at bolisi’r blaid, gadewch i ni beidio â cholli pleidleisiau, wir.

“Gadewch i ni gael pobol angerddol i mewn i wleidyddiaeth ag amrywiaeth o safbwyntiau… hyd nes y daw i gael safbwynt a gwneud y meddyliau hynny’n gyhoeddus.

“Siomedig iawn yng ngrŵp Plaid Cymru a’r aelodau Llafur sydd yn Weriniaethwyr mewn gwirionedd.

“Fydd DIM BYD yn newid os nad ydych chi’n GWNEUD dim byd.”