Bydd Mudiad Meithrin yn cynnal parêd am 10.30 ddydd Sadwrn, Mehefin 4 ar Faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal.
Mae’r Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi wedi bod yn brysur yn creu baneri lliwgar i’w cario fel rhan o’r orymdaith, a bydd gwobr yn cael ei rhoi i’r tair ar y brig.
Bydd yr orymdaith hefyd yn dathlu’r newyddion da fod Taith Gŵyl Dewin a Doti yn ei hôl ar ôl tair blynedd, a bydd y diddanwr plant poblogaidd Siani Sionc yn arwain yr orymdaith.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o stondin Mudiad Meithrin gan orffen ger llwyfan y maes lle bydd Siani Sionc yn rhoi perfformiad byw i roi blas o’r sioe fydd yn rhan o’r Daith.
“Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 300 o blant a’u rhieni yn gorymdeithio gan chwifio baneri lliwgar i ddathlu addysg Gymraeg yn yr ardal,” meddai Carys Gwyn, Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain.
“Rydym hefyd yn croesawu unrhyw blentyn a’i deulu fydd ar y maes sy’n mynychu Cylch Meithrin yn unrhyw ardal o Gymru i ymuno gyda ni.”