Dydy cynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dysgu drwy’r Gymraeg ddim yn gwneud digon, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun deng mlynedd i gyflawni’r nod, ond yn ôl Ifan Jones, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, dydy’r cynllun ddim yn cael ei gyflawni ar ddigon o frys.

Fel rhan o’r cynllun, mae £500,000 o gyllid newydd yn cael ei ddarparu i ysgolion unigol i helpu i gynyddu maint y gweithlu Cymraeg.

Mae’n cynnwys nifer o gamau gweithredu megis cefnogi graddedigion sy’n siarad Cymraeg sy’n astudio yn Lloegr i ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu, ac ehangu’r ystod o bynciau uwchradd sydd ar gael i bobol sydd mewn cyflogaeth ac sydd eisiau hyfforddi i addysgu.

‘Angen mynd ymhellach’

Y brif her wrth sicrhau bod pob disgybl yn derbyn addysg Gymraeg yw cael digon o staff sy’n gweithio drwy’r Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

“Felly yn sicr mae angen cynllun i fynd i’r afal â hynny ond dydy’r hyn mae’r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi ddim yn gwneud digon, nac ar ddigon o frys,” meddai Ifan Jones.

“Mae angen buddsoddi £10m y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf i Gymreigio’r gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd, nid dim ond athrawon, ac mae angen i’r ddeddf addysg Gymraeg mae’r Llywodraeth yn ei pharatoi gynnwys targedau statudol i bob awdurdod lleol ar gyfer nifer y gweithlu addysg sy’n siarad Cymraeg.

“Ac yn fwy na gwneud gwersi Cymraeg ar gael am ddim, mae angen cynnwys blwyddyn ychwanegol yn hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau eu bod nhw’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg; ac mae angen cronfa benodol i ysgolion wneud ceisiadau iddi i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol.

“Mae addysg Gymraeg yn hanfodol i gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg.

“Ac os ydy’r Llywodraeth o ddifri am gyrraedd y targed hynny, mae angen mynd ymhellach, ac yn fwy sydyn.”

Lansio cynllun deng mlynedd i gael mwy o athrawon sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £1m ychwanegol eleni i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun