Kirsty Williams
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi mynegi eu pryder am yr “amrywiaethau mawr” yng ngwariant iechyd meddwl ymysg llywodraethau lleol Cymru.
Mae dadansoddiad diweddar ganddyn nhw’n dangos fod mwy na hanner cynghorau Cymru yn gwario llai o’u cyllidebau gofal cymdeithasol ar iechyd meddwl o gymharu â phedair blynedd yn ôl.
Maen nhw hefyd yn pryderu fod gwahaniaethu mawr yng ngwariant iechyd meddwl rhwng un cyngor a’r llall.
Mae eu ffigurau’n dangos fod Sir Fynwy wedi gwario 11.23% o gyllid gofal cymdeithasol ar iechyd meddwl. Ond, dim ond 2.35% o’r gyllideb y gwnaeth Blaenau Gwent ei wario.
Ar gyfartaledd, roedd yr holl gynghorau wedi gwario 4.7% o’r cyllid gofal cymdeithasol ar iechyd meddwl yn ystod 2014/15 – sydd 5% yn is na 2011/2012.
‘Cyfartal ag iechyd corfforol’
Fe esboniodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod yr “amrywiaethau mawr” yn achosi pryder.
“Gyda’r galw am wasanaethau iechyd meddwl yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn, a chyflyrau iechyd meddwl yn dod yn fwy dealledig a thriniadwy, byddech chi’n disgwyl gweld mwy o gyllid gofal cymdeithasol yn cael ei wario ar y gwasanaethau hyn.”
“Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae wrth sicrhau bod cynghorau lleol yn cymryd y cyfrifoldebau dros iechyd meddwl o ddifrif.”
Fe ddywedodd y byddai ei phlaid hi’n sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei drin “yn gyfartal ag iechyd corfforol yn y GIG ac mewn gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod defnyddwyr o’r gwasanaeth yn cael eu trin o fewn amser a chyda pharch.”