Timau achub yn chwilio am bobl yn y rwbel wedi'r tirlithriad yn Shenzhen
Mynydd enfawr o bridd a gwastraff, a oedd wedi cael ei bentyrru yn erbyn bryn, sy’n cael y bai am achosi tirlithriad a oedd wedi dymchwel 33 o adeiladau yn ne China.

Mae 81 o bobl yn dal ar goll yn ninas Shenzhen, ger Hong Kong ers y tirlithriad ddydd Sul.

Mae timau achub wedi tynnu un corff o’r rwbel hyd yn hyn.

Yn ôl yr awdurdodau roedd y tirlithriad wedi claddu neu ddifrodi 33 o adeiladau yn y parc diwydiannol yn Shenzhen, sy’n cynhyrchu nwyddau o ffonau symudol i geir, sy’n cael eu gwerthu ar draws y byd.

Mae’r trigolion wedi rhoi’r bai ar esgeulustod y llywodraeth tra bod un weinidogaeth wedi dweud bod y “pentwr yn rhy uchel, yn rhy serth.”

Cafodd o leiaf 16 o bobl eu cludo i’r ysbyty ar ôl i’r tirlithriad orchuddio ardal dros 450,000  llathen sgwâr.

Dywedodd y Weinidogaeth Tir ac Adnoddau bod darnau o sment a gwastraff adeiladu wedi cael eu pentyrru yn erbyn bryn 330 troedfedd o uchder dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Roedd glaw trwm yn yr ardal wedi gwneud y pentwr “yn drwm ac yn ansefydlog” gan arwain at y tirlithriad, meddai’r Weinidogaeth.

Yn ôl y llywodraeth mae 600 o bobl wedi cael eu hail-leoli.