Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ymgynghori ar y posibilrwydd o newid cynllun parcio am ddim y Bathodyn Glas er mwyn galluogi pobl sydd â chyflyrau iechyd dros dro i’w hawlio.

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd, lle byddan nhw’n ystyried ymestyn y cynllun at bobl sydd â chyflyrau iechyd cymwys sy’n debygol o barhau am o leiaf 12 mis.

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn cynnig parcio di-dâl i bobl yng Nghymru sydd ag anableddau.

Newid i’r broses asesu?

Yn ystod yr ymgynghoriad, fe fyddan nhw hefyd yn ystyried cyflwyno newidiadau i’r broses asesu. Golyga hyn y posibilrwydd o gynnal asesiadau gan feddygon teulu a chyflymu’r broses ar gyfer y rhai sy’n cyflwyno ceisiadau i adnewyddu eu bathodynnau.

“Mae gan Gynllun y Bathodyn Glas rôl hanfodol i’w chwarae o ran ei gwneud yn haws i bobl ag anableddau gael gwaith cyflogedig a defnyddio gwasanaethau,” meddai Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth.

Fe esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i’r cynllun eisoes <http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/102446-newid-rheolau-r-bathodyn-glas> a’i ymestyn at ragor o bobl, a sicrhau cysondeb o ran y modd y caiff ei weithredu.

Er hyn, fe ddywedodd Edwina Hart fod ambell broblem ynglŷn â’r broses asesu yn parhau, ac fe sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddatrys hynny.

“Dw i’n hynod ddiolchgar i’r Grŵp am eu gwaith a bydda i’n mynd ati cyn gynted ag y bo modd i fwrw ymlaen â’r newidiadau pwysig hyn.”

Esboniodd y bydd yn cydweithio â sefydliadau eraill i wella’r prosesau. Fe fydd hefyd yn sicrhau ymgyrch gyfathrebu i gyflwyno pwysigrwydd y bathodynnau i bobl sydd ag anableddau gan geisio mynd i’r afael â’r rhai sy’n camddefnyddio’r cynllun ac yn cam-fanteisio ar y bathodynnau.