Mae tri phlentyn wedi lladd eu hunain a chwe pherson arall drwy danio ffrwydron yng ngogledd-ddwyrain Nigeria.
Y gred yw bod y plant, rhwng 10 a 15 oed wedi gwneud hyn yn fwriadol o dan enw’r grŵp brawychol Boko Haram, gan anafu 24 arall hefyd.
Fe wnaethon nhw ymosod ar reolfan diogelwch yn Benisheikh, tref yn Nhalaith Borno yn y wlad, ddoe.
Yn ôl llefarydd ar ei rhan, mae byddin y wlad wedi lladd o leiaf 12 o ymladdwyr Boko Haram mewn ymgyrch yn yr un dalaith ar yr un diwrnod.
Mae Boko Haram, sy’n dweud ei fod yn gweithredu yn enw Islam, wedi lladd tua 20,000 o bobol yn Nigeria ac wedi gorfodi 2.3 miliwn o’u cartrefi, yn ôl yr elusen Amnesti a’r Cenhedloedd Unedig.