Mae pum person wedi cael eu dal gan awdurdodau Gwlad Belg, gan gynnwys dau frawd, ar ôl dau ddiwrnod o gyrchoedd yn ymwneud ag ymosodiadau Paris.

Fe wnaeth swyddfa’r erlynydd ffederal ddweud bod dau berson wedi cael eu dal yn dilyn cyrch ar dŷ heddiw ym Mrwsel.

A neithiwr, roedd tŷ arall ym Mrwsel wedi cael ei chwilio gan yr awdurdodau, gan arwain at gadw dau frawd a ffrind i’w cwestiynu.

Yn ôl swyddfa’r erlynydd, roedd yr awdurdodau wedi bod yn dadansoddi cofnodion ffôn a oedd wedi’u harwain at y cyrch ddydd Sul.

Doedd dim arfau na ffrwydron wedi cael eu darganfod yn yr un o’r tai a dydy enwau’r bobol sy’n cael eu cadw gan yr heddlu ddim yn hysbys eto.

Bydd beirniad yr ymchwiliad yn penderfynu’n ddiweddarach os oes achos i gadw’r pump yn y ddalfa.

Fe wnaeth y grŵp brawychol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ysgwyddo’r cyfrifoldeb am yr ymosodiadau ym Mharis ar Dachwedd 13 pan laddwyd 130 o bobol.