Bydd Plac Porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Abertyleri heddiw (dydd Gwener, Mai 12) i gofio am nyrs  “arloesol a dewr” o Abertyleri.

Roedd Thora Silverthorne yn un o’r nyrsys cyntaf o wledydd Prydain i wirfoddoli i helpu’r rhai a gafodd eu hanafu yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac a aeth yn ei blaen wedyn i bledio achos ei phroffesiwn yn y Deyrnas Unedig.

Plac Thora Silverthorne, sydd i’w ddadorchuddio y tu allan i Amgueddfa Abertyleri ym Mlaenau Gwent,  fydd y nawfed i’w ddadorchuddio dan gynllun Placiau Porffor Cymru.

Syniad Julie Morgan a Jane Hutt, dwy o Aelodau Llafur y Senedd, oedd y cynllun yn wreiddiol yn 2017, a’i nod yw dathlu gorchestion menywod Cymru sy’n aml heb eu cofio, a sicrhau bod eu straeon ysbrydoledig yn cael eu hadrodd i’r genhedlaeth nesaf.

Mae’r plac wedi’i ariannu drwy garedigrwydd teulu Thora ac wedi ei greu gan y crochenydd o Gas-gwent, Julia Land.

Bydd côd QR ‘History Points’ ochr yn ochr â’r plac er mwyn helpu ymwelwyr â’r amgueddfa i ddysgu am ei bywyd.

Pwy oedd Thora Silverthorne?

Merch i löwr a dreuliodd ei bywyd cynnar yn Abertyleri oedd Thora Silverthorne.

Cafodd ei thad, un o swyddogion Undeb Cenedlaethol y Glowyr, ei ddiswyddo ar ôl Streic Fawr 1926 a chafodd y teulu eu gorfodi i adael Cymru er mwyn iddo ddod o hyd i waith.

Cyfraniad arall a wnaeth Thora i hanes meddygol hefyd fel un o sylfaenwyr y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd oedd arwain dirprwyaeth i gwrdd â’r Prif Weinidog ar y pryd, Clement Attlee, a’i Ysgrifennydd Iechyd, Aneurin Bevan, yn ystod ffurfio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Ar ôl hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Radcliffe, Rhydychen, fe wirfoddolodd Thora, yn ddewr iawn, i fynd i Sbaen gyda meddygon a nyrsys Prydeinig eraill – roedd hyn er gwaetha’r ffaith na fedrai air o Sbaeneg ac na fu hi y tu hwnt i Ynysoedd Prydain erioed cyn hynny,” meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru.

“Yn ystod ei chyfnod fel metron yn Sbaen bu’n cynorthwyo gyda llawdriniaethau mewn adeiladau oedd wedi’u bomio, weithiau heb gyflenwadau meddygol sylfaenol fel anesthetig hyd yn oed.

“Ymhellach, ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, aeth Thora ymlaen i sefydlu Cymdeithas y Nyrsys, sef yr undeb nyrsys cyntaf i ddeillio’n uniongyrchol o blith gweithwyr ar lawr gwlad, a’r ail fudiad yn unig i gynrychioli’r proffesiwn nyrsio. Yn ddiweddarach fe ddaeth yn rhan o UNISON.”

‘Balch’

Mae ei theulu’n falch o’u gwreiddiau ac maen nhw “wrth eu bodd” o gael bod yn bresennol yn achlysur y dadorchuddiad yn nhref enedigol Thora.

“Rwy’ mor gyffrous – ac mor falch – fod fy mam yn cael ei hanrhydeddu â Phlac Porffor yn Abertyleri,” meddai Lucy Craig, merch Thora Silverthorne.

“Cafodd ei geni yn y dref a bu’n byw yno am 17 mlynedd gyntaf ei bywyd – blynyddoedd pan gafodd diwylliant a gwerthoedd Cymru effaith ddofn arni.

“Ffurfiwyd a hogwyd y daliadau sosialaidd fu ganddi gydol ei hoes nid yn unig ymhlith ei theulu a oedd yn ymwybodol iawn yn wleidyddol, ond gan y gymuned ehangach yn yr ardal hefyd.”

‘Hanes wedi anwybyddu llwyddiannau menywod’

“I raddau helaeth, mae hanes wedi anwybyddu llwyddiannau menywod, yma yng Nghymru ac o gwmpas y byd,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, a fydd yn bresennol ar gyfer y dadorchuddio.

“Mae prosiect y Placiau Porffor yn ffordd syml ond pwysig o ddechrau unioni’r cam yma.

“Mae teulu Thora’n haeddu bod yn falch o’r hyn a gyflawnodd.

“Mae’n amlwg taw cyfiawnder cymdeithasol oedd canolbwynt ei gwaith o ran y rhai a anafwyd yn y rhyfel a hefyd o ran ei chydweithwyr yr oedd hi’n teimlo bod angen cynrychiolaeth well arnynt yn eu proffesiwn. Rwy’n siŵr bod ei hysbryd arloesol a’i chydwybod cymdeithasol yn deillio o’i magwraeth yn ferch i löwr o Gymru.”

“Sicrhau bod menywod a oedd wedi gwneud pethau ysbrydoledig yn ystod eu bywyd yn cael eu cofio” yw nod y cynllun Placiau Porffor, yn ôl Julie Morgan.

“Mor aml fe welwch gerfluniau a phlaciau i ddynion tra bod llwyddiannau merched yn fynych heb eu nodi,” meddai.

“Roedd penderfyniad Thora Silverthorne i ymuno â’r dynion a aeth i Ryfel Cartref Sbaen er mwyn helpu’r rhai a anafwyd yn un dewr.

“Peryglodd ei bywyd ei hun yn hollol anhunanol er mwyn cynorthwyo.

“Gorchest yr un mor drawiadol oedd dod yn ôl a sefydlu undeb i helpu nyrsys weithio tuag at ennill telerau ac amodau gwaith gwell.

“Mae hi’n fodel rôl gwych i ferched heddiw.”

Ymateb lleol

Dywed Cyngor Blaenau Gwent eu bod nhw’n “falch iawn o gefnogi’r achlysur” ac o “ddathlu bywyd rhyfeddol Thora Silverthorne o Abertyleri, yma ym Mlaenau Gwent”.

“Mae cynllun Placiau Porffor Cymru yn gyfle gwych i gydnabod yr hyn a gyflawnodd menywod o bob rhan o Gymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu,” meddai llefarydd.

“Mae Thora yn fodel rôl rhagorol i’n plant a’n pobol ifanc, a dyma ffordd wych o sicrhau ein bod yn cofio ei hetifeddiaeth am byth.”

Dywed Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ei bod yn “anrhydedd” cael bod yn rhan o’r achlysur.

“Mae cael plac porffor y tu allan i theatr y Metropole, yng nghalon Abertyleri, yn fodd gwych o sicrhau y caiff ei gorchestion a’i gwaith eu cofio gan genedlaethau’r dyfodol,” meddai.