Mae rhybuddion Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd yn parhau mewn nifer o ardaloedd y prynhawn ma.
Cafodd y rhybuddion eu cyhoeddi yn dilyn glaw trwm, yn enwedig yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd am law yn ne a chanolbarth Cymru wedi dod i ben erbyn hyn.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhagdybio y gallai hyd at dair modfedd (80mm) o law gwympo mewn rhai llefydd dros gyfnod o 24 awr.
Cadarnhaodd y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi cael eu galw i nifer o fannau yng nghanolbarth, gorllewin a gogledd Cymru yn ystod y bore.