Bydd tua 400 o ddiffoddwyr tân sydd wedi ymddeol yng Nghymru yn cael gwerth miloedd o bunnoedd mewn iawndal ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod eu pensiynau wedi cael eu camgyfrifo.

Cafodd diffoddwyr tân ledled y Deyrnas Unedig a wnaeth ymddeol rhwng 2001 a 2006 daliadau is na beth ddylen nhw fod wedi’u cael a hynny o achos camgymeriad Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cael dros £5m gan y Trysorlys i dalu’r diffoddwyr tân sydd wedi cael eu heffeithio yng Nghymru.

Gan fod y gwasanaeth tân wedi’i ddatganoli, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am ddosbarthu’r arian i bawb.

“Mae’r Trysorlys wedi darparu’r arian angenrheidiol fel nad oes angen i ni lyncu’r costau o’n cyllidebau presennol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi taliadau grant gwerth cyfanswm o £5.24m i’r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru i dalu’r hyn sy’n ddyledus i ddiffoddwyr tân a wnaeth ymddeol rhwng 2001 a 2006.”

Ymchwiliad yr Ombwdsmon

Mae’r penderfyniad i roi’r iawndal yn dilyn ymchwiliad a gafodd ei gynnal gan Ombwdsmon Pensiynau’r DU ym mis Mai.

Dyfarnodd y dylai diffoddwyr tân a swyddogion yr heddlu a oedd wedi ymddeol rhwng mis Rhagfyr 2001 a mis Tachwedd 2006 gael mwy o arian i’w cyfandaliadau, gan gynnwys llog.

Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am roi’r taliadau i swyddogion yr heddlu yng Nghymru.

Galw am ddod â’r iawndal yn ôl hyd at 1992

Er bod Undeb y Frigâd Dân yn croesawu’r penderfyniad, maen nhw wedi galw am ymchwiliad i’r sawl sydd wedi ymddeol mor bell yn ôl â 1992, gan y gallai “miloedd” o bobl eraill gael eu heffeithio.

“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod nhw (y Llywodraeth) wedi derbyn y ffaith bod problem, ond bydd yr Undeb nawr yn trio mynd yn ôl ymhellach (na 2001),” meddai Cerith Griffiths, Ysgrifennydd yr Undeb yng Nghymru.

“Dwi ddim yn deall pam nad ydyn nhw’n gallu mynd ymhellach yn ôl na 2001. Mae hwn yn effeithio ar bobol (sydd wedi ymddeol) ers 1992.”