Nigel Farage
Mae unig aelod seneddol Ukip wedi galw eto ar arweinydd y blaid, Nigel Farage i gamu o’r neilltu.

Fe ddywedodd Douglas Carswell, AS dros Clacton, wrth siarad gyda BBC Essex fod angen i Nigel Farage roi’r gorau i’r arweinyddiaeth yn dilyn y canlyniadau siomedig yn yr isetholiadau yng Ngorllewin Oldham a Royton.

“Roedd yr isetholiad yn Oldham yn dangos yn berffaith glir fod angen wyneb newydd,”  meddai.

Roedd disgwyl i Ukip wneud yn dda yn isetholiad Gorllewin Oldham, ond yn groes i’r disgwyliadau fe wnaeth y Blaid Lafur ddal eu tir gan sicrhau mwyafrif o fwy na 10,000.

Mae Douglas Carswell yn teimlo fod angen “wyneb newydd”  ac mae’n galw ar Nigel Farage i gamu o’r neilltu gan adael i rywun mwy “optimistiaid a brwd” i arwain y blaid. Fe awgrymodd Douglas Carswell yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai y dylai Nigel Farage gymryd saib.

Mae Douglas Carswell wedi diystyru ceisio am yr arweinyddiaeth ei hun.

Ond mae Nigel Farage wedi cyhuddo Carswell o gynllwynio yn ei erbyn ers yr etholiad ym mis Mai, ac mae’n mynnu fod y blaid yn unedig.