Y difrod wedi'r tan ar do'r Llyfrgell Genedlaethol
Mae pump  o gyrff cyhoeddus Cymru wedi cael eu beirniadu gan un o bwyllgorau’r Cynulliad am y modd maen nhw’n delio â’u cyfrifon er mwyn sicrhau “gwerth am arian”.

Mae’r sefydliadau yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru,  Amgueddfa Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gwestiynau am y modd y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mynd ati i ddwyn achos yn erbyn y contractwyr a fu’n gyfrifol am y tân a ddechreuodd ar do’r Llyfrgell ar 26 Ebrill, 2013.

Fe awgrymodd y Pwyllgor nad yw costau cyfreithiol y Llyfrgell yn cynnig “gwerth am arian” o’i gymharu â’r iawndal tebygol y gallan nhw ei dderbyn.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gwneud sylw am gynllun pensiwn a diswyddo Amgueddfa Cymru, gan gredu nad yw’r cynllun yn gydnaws, ag anghydfod ynghylch tâl ac amodau rhwng rheolwyr a staff y rheng flaen.

‘Cyfrif twyllodrus’

Fe wnaeth y Pwyllgor ganmol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru am ei system goleuadau traffig i ddangos perfformiad ar olwg gyflym.

Ond, fe wnaethon nhw fynegi eu siom o glywed mai dim ond cyfran fechan o’r £100,000 a gollwyd yn 2013-14 sydd wedi’i adfer, wedi i’r arian gael ei roi mewn cyfrif twyllodrus.

O ran Bwrdd Chwaraeon Cymru, fe wnaeth y Pwyllgor dynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth gan groesawu’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud i fynd i’r afael â’r mater.

Yn ogystal, fe wnaeth y Pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei ddefnydd ynni, gan fynegi eu pryderon am reoli prosiectau a’r prosesau sydd ar waith i adolygu contractau cyn iddynt ddod i derfyn.

‘Hawdd eu darllen a thryloyw’

“Mae angen bod pobl yn hyderus bod y cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau rydyn ni eu hangen yng Nghymru yn gweithredu’n effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian,” meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen bod cyfrifon cyrff cyhoeddus yn hawdd eu darllen ac yn dryloyw.”

Esboniodd fod y pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion trawsbynciol yn eu hadroddiad, ond eu bod hefyd wedi cyfeirio rhai pwyntiau mwy penodol ar gyfer pob un o’r sefydliadau yn eu tro.

‘Datrys pryderon’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol eu bod eisoes wedi comisiynu adolygiad allanol ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod pryderon ynglŷn ag elfennau o’r ffordd roedd y sefydliad yn cael ei redeg, a’u bod yn gweithio i gwrdd â’r argymhellion.

“Mae’r Bwrdd yn gwbl benderfynol o fynd i’r afael a datrys pryderon yr adolygiad ynglŷn â gweithdrefnau, prosesau disgyblu, rheoli a llywodraethiant yn y Llyfrgell,” meddai’r sefydliad mewn datganiad.

“Fel mae’r Adolygiad yn dangos, yr ydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol ar nifer o faterion, megis ailstrwythuro sefydliadol.

“Fodd bynnag, mae’r Llyfrgell yn cydnabod bod angen gwneud mwy, a dyna pam mae’r Bwrdd wedi sefydlu Tasglu Llywodraethiant arbennig i drafod a datblygu amserlen fanwl ar gyfer gweithredu pob un o’r argymhellion ar waith, ac i adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Medi.”