Bydd gofalwyr di-dâl yn elwa ar gronfa seibiant newydd gwerth £9m sydd wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr arian ar gael am dair blynedd, ac fe fydd yn rhoi mwy o gyfle i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant o’u cyfrifoldebau’n gofalu am rywun.

Bydd modd i ofalwyr gymryd seibiant yn rheolaidd o ganlyniad i’r gronfa, er mwyn ceisio osgoi blinder dwys a rhoi hwb i’w hiechyd a lles meddyliol a chorfforol, ac i gymryd rhan mewn diddordebau neu weithgareddau, gan gynnwys mynd i’r gampfa, dysgu sgiliau newydd, mynd am dro neu ddarllen.

Gallai olygu hefyd fod gofalwyr yn cael y cyfle i dreulio mwy o amser gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, neu fe allai olygu treulio mwy o amser gyda’r person maen nhw’n gofalu amdano/i.

Cyfnodau clo

Fe fu’r cyfnodau clo dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig o anodd i ofalwyr, wrth iddyn nhw fethu â chael seibiant i’w helpu nhw i ymdopi â’r pwysau o ofalu am rywun.

Mae cyfyngiadau’r cyfnodau clo hefyd wedi cyfyngu ar le maen nhw wedi gallu mynd a beth maen nhw wedi gallu ei wneud, yn ogystal â golygu diffyg cefnogaeth teulu neu ffrindiau, gan arwain at ragor o flinder a’u gwthio nhw’n nes at y dibyn.

Gall seibiant helpu gofalwyr – boed trwy gefnogaeth, gwasanaeth neu brofiad – i ymdopi â straen a rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud pethau nad oes ganddyn nhw amser i’w gwneud fel arfer, gan gynnwys gweld teulu a ffrindiau.

Yn ôl arolwg o fwy na 700 o ofalwyr di-dâl, doedd 70% ohonyn nhw ddim wedi gallu cymryd seibiant ers mis Mawrth y llynedd.

Yn ôl arolwg arall o 1,500 o ofalwyr di-dâl, bu’n rhaid i fwy na’u hanner nhw roi’r gorau i ddiddordebau oherwydd eu rôl yn gofalu am rywun.

Bydd sefydliad trydydd sector yn gofalu am y cynllun seibiant byr, gan gydweithio ag eraill yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan alluogi mwy o ofalwyr di-dâl yng Nghymru i gael mynediad i seibiant addas ar adeg addas.

“Y ffordd fwyaf effeithiol” o gael seibiant

“Rwy’n gwybod bod llawer o ofalwyr di-dâl wedi cael trafferth cael seibiant byr yn ystod y pandemig a sut mae hyn wedi effeithio arnynt,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn buddsoddi yn y cynllun seibiant hwn gan ein bod yn cydnabod pa mor bwysig yw’r seibiannau byr hyn o’u cyfrifoldebau gofalu, gan gefnogi eu lles corfforol a meddyliol, a sut y gallant gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

“Rydym am ei gwneud yn haws i ofalwyr di-dâl o bob oed ledled Cymru gael seibiant a thrwy gydweithio credwn mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny.”

‘Angen gwneud mwy’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, ei bod hi’n falch o’i weld yn dod i rym yn dilyn “ymgyrch hir” gan ei phlaid.

“Oblegid, mae angen gwneud mwy i gydnabod gwaith caled eithriadol gofalwyr a gwneud eu bywydau’n haws,” meddai Jane Dodds.

“Rydyn ni i gyd yn adnabod rhywun sy’n ofalwr, ac rydyn ni i gyd yn gweld y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud, ac yn ôl yr amcangyfrifon mae eu gwaith nhw’n arbed tua £12bn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.”

‘Codi cwestiynau’

Wrth ymateb, dywedodd Peredur Owen Griffiths, llefarydd Plaid Cymru dros Gymunedau a Phobol Hŷn, bod cwestiynau’n codi ynghylch pwy fydd yn gymwys am y cyllid.

“I’r rhan fwyaf o ofalwyr di-dâl, mae amgylchiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi golygu nad ydynt wedi medru cymryd seibiant o’u dyletswyddau,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae eu gofal di-baid wedi mynd y tu hwnt i’w cyfrifoldeb fel rhieni, partneriaid, ffrindiau neu deulu, felly mae unrhyw gydnabyddiaeth o’u hymdrech gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr.

“Mae’r gweinidog iechyd wedi awgrymu y bydd ond ar gael i’r rhai sy’n gweithio fel gofalwr di-dâl am 35 awr yr wythnos neu fwy ac ar incwm isel.

“Gallai hyn eithrio pobl sydd â swydd ran-amser yn ogystal â’u gwaith gofal a gofalwyr hŷn sydd hefyd yn derbyn pensiwn.

“Mae angen inni weld y manylion llawn er mwyn sefydlu faint o ofalwyr di-dâl na fydd yn gymwys ar gyfer y gronfa hon.”

‘Angen mynd ymhellach’

Er bod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r ymdrechion i sicrhau seibiant i ofalwyr di-dâl, maen nhw’n dweud bod angen mynd ymhellach a sicrhau mynediad am ddim i ofalwyr di-dâl at hyfforddiant, cefnogaeth, ac asesiadau.

“Gadewch i ni beidio ag anghofio chwaith bod y £9m sydd wedi cael ei gyhoeddi, o’i rannu rhwng 400,000 gofalwr di-dâl Cymru, yn golygu mai ychydig dros £20 mae pob person yn ei gael – ac er bod y rhaglen wedi’i chynllunio i dargedu’r rhai ar incymau is, bydd y rhan fwyaf o ofalwyr, o ystyried eu bod nhw’n ddi-dâl, yn cyrraedd y trothwy hwnnw, mae’n debyg,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dw i’n falch bod gweinidogion Llafur yn cael y neges nad yw eu hagwedd tuag at ofalwyr yn ystyried y goblygiadau hirdymor, ond rydyn ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen i ofalwyr ifanc er mwyn darparu grantiau iddyn nhw gael mynediad at addysg, hyfforddiant, a chyflogaeth a chaniatáu iddyn nhw deithio ar fysus am ddim.”