Bydd grŵp Gwrthryfel Difodiant Aberteifi yn holi ymgeiswyr etholiadau lleol mis Mai am eu hymrwymiadau dros yr hinsawdd.

Er mwyn rhoi gwybod i’r cyhoedd am ymrwymiadau a barn ymgeiswyr lleol, mae’r grŵp gweithredu wedi llunio holiadur byr ar-lein a fydd yn cael ei yrru at bob ymgeisydd yng Ngheredigion.

Yn ôl y grŵp, mae “gweithredu annigonol” ar yr hinsawdd gan lywodraethau cenedlaethol yn golygu bod rôl awdurdodau lleol yn bwysicach fyth.

Mae’r etholiadau awdurdodau lleol fis nesaf yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos i’r cyhoedd sut y byddan nhw’n gwneud anghenion yr hinsawdd a natur yn rhan ganolog o’u cynlluniau, meddai.

Bydd canlyniadau’r holiaduron yn cael eu casglu gan y grŵp, ac yna’n cael eu cyhoeddi.

“Rydyn ni’n gwybod o arolwg stryd diweddar yn Aberteifi bod yna lawer o bryder ymhlith y boblogaeth, sy’n teimlo nad oes digon yn cael ei wneud i frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur”, meddai Jim Bowen, rheolwr gyfarwyddwr Fferm Ofal Clynfyw ger Boncath, ar ran y grŵp.

“Bydd gan bobol ddiddordeb mawr mewn dysgu am flaenoriaethau ymgeisydd, clywed sut y byddant yn ymgysylltu â’r cyhoedd ar y materion hyn ac a ydynt yn cefnogi materion fel dadfuddsoddi cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol oddi wrth danwydd ffosil.”

‘Dadlau o blaid newidiadau’

Mae cynghorwyr annibynnol yn cynrychioli cyfran sylweddol o gynghorwyr ar rai cynghorau, ac felly mae angen casglu eu barn er mwyn sicrhau bod pobol yn gallu penderfynu sut i bleidleisio, meddai’r grŵp.

Ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, mae awdurdodau lleol wedi llunio cynlluniau gweithredu i gyflawni eu huchelgeisiau ar gyfer natur a’r hinsawdd.

Mae’r cynlluniau wedi cael eu hasesu gan Climate Emergency UK yn seiliedig ar y wybodaeth oedd ar gael rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2021.

Yn ôl Gwrthryfel Difodiant Aberteifi, mae’r canlyniadau’n datgelu gwahaniaethau mawr rhwng y cynghorau.

Sgoriodd Sir Benfro 36%, Ceredigion 34%, a Sir Gaerfyrddin 32%, tra bod Caerdydd wedi sgorio 70%.

Ond, maen nhw’n dadlau ei bod hi’n bosib i gynghorau gwledig greu cynlluniau cadarn yng Nghymru, gan fod cynghorau fel Northumberland a Chernyw wedi cael sgoriau uchel (72% a 69%) yn Lloegr.

Ychwanegodd Nic Dafis, tiwtor Cymraeg i Oedolion sydd ynghlwm â’r holiadur, nad oes disgwyl i ymgeiswyr fod yn arbenigwyr ar yr hinsawdd.

“Mae’r rhain yn faterion cymhleth, does neb yn disgwyl i ymgeiswyr fod yn arbenigwr gan fod arweiniad arbenigol ar gael yn rhwydd, ond mae angen i ni wybod y bydd ymgeiswyr yn dadlau o blaid y newidiadau angenrheidiol yn hytrach na gweithio yn eu herbyn, a dyma beth rydym yn gobeithio y bydd yr arolwg yn dangos,” meddai.

Dylai unrhyw un sy’n ymgeisydd yng Ngheredigion, ac sydd heb dderbyn yr arolwg, gysylltu â Gwrthryfel Difodiant Aberteifi drwy cardiganxr@protonmail.com i gael copi ohono dros e-bost.