Mae cwmni garddio dwyieithog a chwmni gwenyn wedi bod yn cydweithio ag ysgol gynradd Gymraeg yn Abertawe i addysgu plant am bwysigrwydd gwenyn i’r amgylchedd.

Cafodd cwmni Bee1 ei sefydlu gan Mark Douglas er mwyn mynd i’r afael â’r gostyngiad mewn peillwyr yn lleol ac yn fyd-eang.

Dywed mai gwenyn yw’r anifeiliaid pwysicaf ar y blaned erbyn hyn, a hwythau wedi’u cynnwys ar restr o rywogaethau sydd dan fygythiad.

Pwrpas a nod Bee1 yw addysgu pobol am bwysigrwydd gwenyn, yn y gobaith o gynyddu’r niferoedd unwaith eto, ac mae eu gwaith yn cwmpasu materion amgylcheddol, bioamrywiaeth, addysg, cymuned, iechyd a lles, gan gynnwys meddwlgarwch.

Yn fanciwr, mae Mark Douglas hefyd yn geidwad gwenyn cymwys.

Mae amcanion y cwmni’n cyd-fynd â gwerthoedd Garddio Hedd, cwmni garddio dwyieithog sy’n bartneriaeth rhwng Ken Thomas a’i fab Gareth Thomas-Brooks, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n gwmni “gwyrdd, taclus, tawel”.

Mae Garddio Hedd yn ffafrio defnyddio offerynnau garddio batri yn hytrach na pheiriannau petrol, ond os oes angen defnyddio peiriannau, maen nhw’n defnyddio tanwydd mwy gwyrdd, ac maen nhw hefyd yn arbenigo mewn garddio organig.

Mae glendid, boed yn yr aer neu wrth arddio, yn greiddiol i waith y cwmni.

Hybu’r amgylchedd drwy arddio’n wyrdd

“Partneriaeth yw Garddio Hedd, sy’n defnyddio’r gair ‘hedd’ achos rydyn ni’n ceisio defnyddio offerynnau sy’n dawel i weithio gyda nhw, ac sy’n dda i’r amgylchedd a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n gweithio ar fatri,” meddai Ken Thomas wrth golwg360.

“Rydyn ni’n ceisio gwneud pethau sy’n hybu’r amgylchedd.

“Ro’n i’n siarad gyda pherchennog y cwmni Bee1, ac wrth siarad gyda fe, wnaethon ni ffeindio ma’s ei fod e wedi bod yn gwneud gwaith gydag un o’r prifysgolion yn ne Cymru ac wedi dod ma’s â phecyn o hadau blodau gwyllt.”

Ar sail gwaith ymchwil lle cafodd samplau eu cymryd o 20 o gychod gwenyn yn ne Cymru, mae Bee1 a Garddio Hedd wedi dod o hyd i hoff hadau gwenyn, ac yn defnyddio’r hadau hynny yn eu gwaith garddio.

“Ffeindion ni ma’s bo nhw wedi rhoi pecyn at ei gilydd sy’n helpu dysgu plant am wenyn yn enwedig, a’r peillwyr eraill,” meddai Ken Thomas wedyn, wrth egluro sut y daeth Garddio Hedd, Bee1 ac Ysgol y Login Fach at ei gilydd.

“Fel rhan o hynny, maen nhw’n cael cwch gwenyn yn eu fferm ac mae’r plant yn gallu enwi’r frenhines.”

“Aruthrol o bwysig” dysgu plant am wenyn a’r amgylchedd

Yn ôl Ken Thomas, mae’n “aruthrol o bwysig” dysgu plant am wenyn a’r amgylchedd.

Mark Douglas yn dangos cwch gwenyn

“Mae’r pecyn yn rhoi cŵyr a defnydd i wneud pecynnau i’w brechdanau nhw, felly mae’n cael gwared ar fagiau plastig hefyd.

“Ar ddiwedd y dydd, nhw fydd yn edrych ar ôl y ddaear yn y dyfodol, ac mae’n bwysig iawn bo nhw’n gwybod sut i fyw gyda’r creaduriaid eraill hyn,” meddai.

“Maen nhw’n rhoi mêl o’r cwch yn ôl i’r plant felly maen nhw’n gallu ei werthu fe mewn ffair haf neu beth bynnag.

“Felly mae digon o bethau mae’r plant yn gallu gwneud, a defnyddio’u dwylo hefyd wrth ddysgu am y gwenyn.”

Astudio’r ardal leol yn rhan o’r cwricwlwm

Yn ôl Mr Aron Jones, athro Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd y Login Fach yn ardal Waunarlwydd yn Abertawe, mae dysgu am yr amgylchedd “yn bwysig dros ben”.

Blwyddyn 6 yn Ysgol y Login Fach yn dysgu am wenyn

“Ein thema ni gyda’r cwricwlwm newydd yw astudio’r ardal leol,” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni’n edrych ar sut rydyn ni’n gallu gwella’r amgylchedd gyda phrosiectau eco yn yr ysgol, lleihau plastig ac ati.

“Felly mae’n rywbeth sy’n cael ei fwydo mewn i’n gwersi ni’n wythnosol, os nad yn ddyddiol bron.

“Mae Bee1 wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwyddonwr, ac yn lansio dau brosiect newydd, un yn edrych ar ddŵr a mesur dŵr yn yr ardal fel bo nhw’n gallu gweld safon dŵr mewn afonydd, ac un  arall yn edrych ar yr anifeiliaid cyntaf ar y ddaear.

“Gobeithio, unwaith fydd mwy o fanylder gyda’r prosiectau yna, byddwn ni’n gallu gweld os yw hwnna o fudd i’r ysgol brynu mewn iddo fe, ond fi’n rhagweld perthynas yn datblygu rhwng Bee1 a’r ysgol.

“Nagw i wedi clywed am ysgol arall yn Abertawe sydd wedi gwneud [prosiect gwenyn], a nagw i wedi dod ar draws un.

“Roedd Mark Douglas yn sôn bod tua 200 o ysgolion ledled y wlad wedi prynu mewn i’r prosiect yn barod, rhai hyd yn oed mor bell â Llundain os fi’n cofio’n iawn, felly yn bendant mae’n rywbeth sy’n cael ei ddatblygu.

“Fi’n siŵr bod hwn yn brosiect fydd yn mynd lot mwy o faint wrth fynd ymlaen.”