Bydd gwasanaeth cymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol o heddiw (Ebrill 5).
Roedd y gwasanaeth dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ar gael i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig, ond o heddiw ymlaen bydd gofalwyr, cynorthwywyr personol, a staff rheoli a gweinyddu gofal cymdeithasol yn gallu elwa ohono.
Byddan nhw’n gallu cael gwasanaeth cyfrinachol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb, adnoddau hunangymorth a therapi drwy sesiynau rhithwir.
Mae Canopi wedi recriwtio therapyddion ychwanegol er mwyn gallu ymestyn y gwasanaeth gyda Llywodraeth Cymru’n rhoi £1.5m y flwyddyn tuag ato tan 2025.
Dywed yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr Canopi, fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod heriol iawn i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
“Rydym yn falch iawn o allu ehangu cwmpas ein gwasanaeth i gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn iddynt allu cael yr un cymorth iechyd meddwl a lles â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru,” meddai.
“Mae Canopi’n rywle cyfrinachol a chroesawgar lle gall gweithwyr gael gwahanol fathau o gymorth iechyd meddwl, gynnwys hunangymorth, hunangymorth dan arweiniad, cymorth gan eu cydweithwyr a therapi wyneb yn wyneb rithwir gan arbenigwyr achrededig.”
‘Arwain drwy gyfnodau anodd’
Fe wnaeth y gwasanaeth, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol, helpu 800 o feddygon o bob rhan o Gymru rhwng 2012 a 2020.
Cafodd cwmpas y gwasanaeth ei ehangu yn 2020 at ddibenion rhoi cymorth iechyd meddwl i weithwyr y gwasanaeth iechyd oedd yn mynd i’r afael â’r pandemig, ac mae 2,300 o unigolion wedi derbyn help drwyddo ers hynny.
Fe wnaeth Geraint Jones, uwch fferyllydd HIV a gofal cartref, gysylltu â’r gwasanaeth ym mis Hydref 2020 wrth addasu i fyw gyda Covid hir oedd yn cael effaith enfawr ar ei fywyd.
“Gofynnais i Canopi am gymorth, yn bennaf allan o anobaith ac am nad oeddwn yn gwybod at bwy i droi am help,” meddai.
“Cafodd therapydd ei neilltuo i mi, a wnaeth fy arwain drwy sesiynau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT).
“Roedd y strategaethau y gwnaethom eu trafod yn rhai syml iawn a byth yn pwyso gormod arnaf yn feddyliol. Roeddwn yn gwerthfawrogi hynny, gan nad oedd gennyf y gallu meddyliol o gwbl rai dyddiau.
“Ni allaf ddiolch i dîm Canopi ddigon am fy arwain drwy rai cyfnodau anodd iawn pan nad oedd neb arall yn deall fy mhroblemau a’m pryderon.”
‘Cyngor a chymorth addas’
Dywed Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru, fod gweithwyr y rheng flaen a gweithwyr gofal cymdeithasol wedi bod yn “anhygoel” drwy gydol y pandemig a bod “rhaid i ni sicrhau bod eu hiechyd meddwl a’u lles nhw’n cael eu cefnogi”.
“Mae adborth y rhai sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn barod wedi bod yn gadarnhaol iawn,” meddai.
“Rwy’n gobeithio, drwy barhau i ariannu’r gwasanaeth, y bydd mwy o bobol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Rwy’n falch iawn o’r ffaith bod darpariaeth bwrpasol ar gael ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol erbyn hyn er mwyn sicrhau bod cyngor a chymorth addas yn cael eu rhoi i’r rhai sy’n gweithio yn y sector hollbwysig hwn.”
Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 9yb a 5yh drwy hunangyfeirio ar wefan Canopi.