Crwban y mor
Mae un o grwbanod prin y môr wedi’i ganfod ar draeth yn Aberystwyth, wedi iddo gael ei olchi i’r glannau yr wythnos diwethaf.

Mae arbenigwyr wedi’i adnabod fel crwban y môr Kemp ridley, sy’n rhywogaeth brin ac wedi’i ddynodi i fod mewn perygl difrifol yn y gwyllt.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r crwban, sy’n mesur tua 30cm o hyd, ar draeth y gogledd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae swyddogion yr RSPCA yn amau ei fod yn dioddef o septisemia.

 

‘Tyngedfennol’

 

“Dw i dal mewn sioc fy mod wedi cael delio â’r rhywogaeth hardd a phrin yma, ac rwy’n teimlo’n falch iawn,” meddai Ellie West o’r RSPCA.

Esboniodd fod y crwban bellach wedi’i drosglwyddo i Acwariwm Bryste, lle mae ganddyn nhw arbenigwyr i ofalu am grwbanod sydd wedi’u hamddifadu.

Fe ddywedodd David Waines o Acwariwm Bryste: “Yn anffodus roedd y crwban yma’n wael iawn ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni. Rydyn ni’n gweithio gyda’r milfeddyg sy’n arbenigwr mewn crwbanod y môr i geisio’i gadw mewn cyflwr sefydlog.”

Esboniodd fod yr ychydig ddyddiau nesaf yn “dyngedfennol”, ond ychwanegodd fod y crwban “wedi bod trwy dipyn a’i fod wedi golchi i’r glannau am nad oedd bellach yn medru nofio na gofalu am ei hunan.”