Profion canser
Wrth i ffigurau diweddaraf amseroedd aros cleifion canser gael eu cyhoeddi, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd wedi dweud fod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn gweithio ar gynllun ‘100 diwrnod’ i wella’r gwasanaethau.
Ym mis Hydref eleni, dim ond 81% o gleifion canser yng Nghymru gafodd eu gweld o fewn y targed amser o 62 diwrnod, a hynny i lawr o 85.6% ym mis Medi.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai o leiaf 95% o gleifion sydd wedi cael diagnosis brys o ganser ddechrau ar eu triniaeth o fewn 62 diwrnod. Ond, nid yw’r targed wedi’i gwrdd unwaith ers 2008.
Am hynny, esboniodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi llunio cynllun ‘100 diwrnod’ i wella gwasanaethau ac amseroedd aros triniaethau canser.
Blaenoriaethau’r ‘100 diwrnod’
Esboniodd y Dirprwy Weinidog ei fod yn cydnabod fod yna feysydd sydd angen eu gwella a bod angen i rai byrddau iechyd “weithio’n galed i wella’u perfformiad o ran amseroedd aros canser.”
“Rwyf am sicrhau bod mwy o bobl yn cael diagnosis cyflymach ac yn dechrau ar eu triniaeth o fewn yr amseroedd targed rydyn ni wedi’u gosod.”
O ganlyniad, mae blaenoriaethau’r cynllun ‘100 diwrnod’ yn cynnwys:
- canolbwyntio ar gynnig yr apwyntiad cyntaf fel claf allanol cyn pen 10 diwrnod gwaith.
- cwblhau’r diagnosis a chytuno ar y penderfyniad i roi triniaeth cyn pen 31 diwrnod
- blaenoriaethu cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio am driniaeth canser o wasanaethau gofal heb ei drefnu
- llenwi swyddi gwag
- gwella mynediad at wasanaethau diagnosteg
Eto i gyd, esboniodd fod “mwy o bobl yng Nghymru yn goroesi canser nag erioed o’r blaen, diolch i’r ffaith ei fod yn cael ei ganfod yn gynt a’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan y GIG yng Nghymru.”
Fe ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy £380m mewn gwasanaethau canser eleni.
‘Codi arswyd’
Fe ddywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, fod yr amseroedd aros hyn yn “codi arswyd”.
“Mae cael diagnosis o ganser yn adeg anghredadwy o ddirdynnol i unrhyw un. Mae’n codi arswyd fod llawer o bobl ar ôl cael eu diagnosis yn gorfod aros mwy na deufis tan y byddan nhw’n dechrau eu triniaeth.
“Am rhy hir, mae safbwyntiau cleifion wedi’u rhoi i’r neilltu. Mae ar Gymru angen Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus sy’n rhoi cleifion yn gyntaf.”