Susan Elan Jones, AS
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi codi pryder y gall newidiadau arfaethedig i lysoedd y Deyrnas Unedig olygu na fydd siaradwyr Cymraeg bellach yn gallu defnyddio’r iaith mor aml yn y llysoedd.
Mae Susan Elan Jones, AS Llafur dros De Clwyd wedi dweud y gallai polisïau newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gael ‘goblygiadau difrifol’ ledled Cymru.
Mae’r newidiadau’n cynnwys cau 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd ar draws Cymru a Lloegr, ac ar hyn o bryd, mae 10 o lysoedd Cymru dan fygythiad.
Mewn dadl seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin, codwyd pryderon y gallai’r newidiadau olygu bod llai o bobol yn cael cynrychiolaeth gyfreithiol, yn enwedig y sawl sy’n byw mewn cymunedau gwledig a dioddefwyr troseddau cam-drin yn y cartref.
Newidiadau’n ‘golygu llai o Gymraeg’
Yn ôl Susan Elan Jones, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau Tribiwnlys a Chanolfan Gwrandawiadau Wrecsam, byddai’r newidiadau hyn hefyd yn golygu y bydd llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd.
“Rhan hanfodol o fynediad i gyfiawnder yw’r hawl i gael eich clywed yn eich iaith eich hun,” meddai Susan Elan Jones AS.
“Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, i glywed a deall popeth sy’n cael ei ddweud wrthoch chi yn hanfodol. Ac i lawer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, mae hynny’n golygu gallu cymryd rhan yn y llys yn Gymraeg.”
Daeth yr hawl i gynnal gwrandawiadau cyfreithiol yn y Gymraeg yn y llysoedd bron i 70 mlynedd yn ôl drwy Ddeddf Llysoedd Cymru 1942.
“Mae’r difaterwch mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi’i ddangos i’r rhwymedigaethau yn ei Chynllun Iaith Gymraeg ei hun yn anffodus iawn.”
Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi mynegi eu pryderon ynglŷn â chau’r llysoedd, ac yn honni y byddai’n rhaid i bobol deithio ymhell, a hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus, i gyrraedd eu llys agosaf.
Ond, mae Gweinidog y Llysoedd, Shailesh Vara, yn mynnu y byddai modd i bobol gyrraedd llys o fewn awr yn y car ar ôl cau’r canolfannau sydd dan fygythiad.
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymateb i bryderon Susan Elan Jones AS.